Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rwy'n falch o glywed y cwestiwn hwnnw, oherwydd credaf fod angen inni gydnabod y Gymraeg fel sgil yn ogystal â phethau eraill. Po fwyaf y gofynnwn i wahanol sefydliadau gadw at y safonau, y mwyaf y bydd angen inni recriwtio pobl â'r sgiliau angenrheidiol i roi'r cynlluniau hynny ar waith. Felly, ceir ymwybyddiaeth fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei bwysleisio. Rydym yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar hynny bellach mewn colegau addysg bellach, gan ein bod wedi deall bod hwnnw'n faes lle y cafwyd gostyngiad anferth yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r Gymraeg ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg. Felly, mae cyfleoedd go iawn i'w cael. Mae'n rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno, gan ddeall bod yr iaith Gymraeg yn sgìl, ac yn ffordd o gael swydd yn y dyfodol. Mae llawer o hyn yn ymwneud â rhoi hyder i bobl.