Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 7 Mawrth 2018.
Heblaw am Gyrfa Cymru, wrth gwrs, Weinidog, mae nifer o sefydliadau, busnesau ac elusennau eraill sy'n cynnig cyngor ar yrfaoedd a chyfarwyddyd a hyfforddiant—a llawer ohonynt yn cael arian gan Lywodraeth Cymru neu'n cael arian o ffynonellau sy'n dechrau gyda threthdalwyr Cymru. Sut rydych yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd cynyddol sgiliau iaith Gymraeg? A ydych yn sicrhau, hyd yn oed os yw'r ymwybyddiaeth gan sefydliadau, fod gan y bobl y maent yn eu hyfforddi hefyd yr ymwybyddiaeth honno ar ddiwedd y profiad hwnnw?