1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
9. Pa gefnogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei darparu i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd eisiau astudio bagloriaeth Cymru? OAQ51838
Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu darpariaeth addysgol addas i bob dysgwr i'w galluogi i gael mynediad at ystod o gymwysterau, gan gynnwys bagloriaeth Cymru. Bydd y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Diolch. Mae mam i ddyn ifanc ar y sbectrwm awtistig wedi cysylltu â mi. Maent wedi edrych ar fagloriaeth Cymru ar lefel 3 ac mae ganddynt amheuon ynglŷn â gallu eu mab i ymdopi ag agweddau ar fagloriaeth Cymru, yn enwedig y sgiliau mathemateg sy'n angenrheidiol ar gyfer lefel 3 bagloriaeth Cymru, lle mae angen llawer o sgiliau gweithredu gweithredol a sgiliau cydweithredol a chymdeithasol sy'n debygol o achosi straen i'w mab a'i atal rhag ymdopi â'r cwrs. Sut, felly, y byddwch yn mynd i'r afael â'r rhwystrau i gyflawni sy'n deillio o'r ffaith bod bagloriaeth Cymru yn orfodol i bob dysgwr, ac yn enwedig dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ar gwrs lefel 3? A pha ystyriaeth a rowch i agwedd fwy hyblyg a fyddai'n caniatáu i ddysgwyr â 'phroffiliau pigog' gyflawni, i rai byddai hynny'n golygu'r fagloriaeth ac i eraill byddai hynny'n ormod, ond serch hynny mae angen y cyfle arnynt i gyflawni gyda'r sgiliau gwych sydd ganddynt?
Diolch, Mark. Rwy'n dechrau o'r sail y dylai pob cymhwyster fod ar gael i bawb, ac ni chredaf y byddai unrhyw un ohonom yn awyddus i ddechrau o'r amod o ddweud bod rhai grwpiau penodol o ddysgwyr na allant fanteisio ar gymhwyster penodol. Mae'n rhaid inni ddechrau ar sail tegwch.
Fodd bynnag, buaswn yn disgwyl i benaethiaid ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol wrth benderfynu pa ddysgwyr a ddylai ymgymryd â bagloriaeth Cymru ar y lefel berthnasol, yn ôl y llwybr dysgu unigol, a pha gymorth y gall fod ei angen ar ddysgwyr unigol i'w galluogi i gael mynediad at gymhwyster a allai fod o fudd iddynt. Ond mae'n rhaid i hynny ddibynnu ar grebwyll proffesiynol yr athrawon sy'n gweithio gydag unigolion a theuluoedd.