Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 7 Mawrth 2018.
A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar dderbyn cyfrifoldeb am y bargeinion dinesig yn ei bortffolio yn awr? Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, i ryw raddau, drwy hynny. Fe gyfeirioch chi at y campws gwyddorau bywyd a'r safleoedd yno. Rhan o'u rôl yw denu mewnfuddsoddiad i gysyniad y fargen ddinesig yn ei gyfanrwydd, os mynnwch. A fyddwch yn disgwyl i'r buddsoddiad hwnnw fod ar ffurf arian cyhoeddus yn ogystal â buddsoddiad preifat? Gwn fod cryn bwyslais, fel y dylai fod, ar fuddsoddiad preifat, ond o gofio y gallai ffynonellau cyllid yr UE gael eu colli, beth a wnewch i edrych ar lwybrau sector cyhoeddus amgen ar gyfer hynny?