Sector Gwyddorau Bywyd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:22, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym wedi addasu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sicrhau mwy o orgyffwrdd rhwng yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned fusnes ac anghenion cleifion a phobl yng Nghymru. O ran y fargen ddinesig, credaf y byddai disgwyl, nid yn unig buddsoddiad sector preifat, ond hefyd y potensial i ddenu buddsoddiad sector cyhoeddus drwy'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Unwaith eto, credaf fod bargen ddinesig Abertawe yn gyfle perffaith i hyrwyddo iechyd a lles fel blaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer y rhanbarth ond hefyd fel blaenoriaeth ar gyfer Cymru gyfan.