Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:30, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, efallai y gallaf fod o gymorth i Ysgrifennydd y Cabinet yma, oherwydd mae rhai o'r atebion a ddarparwyd i ni bellach drwy'r asesiad amgylcheddol strategol y bu'n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ei gynhyrchu ar fetro de Cymru, a'i gyhoeddi, o dan reoliadau Ewropeaidd, er heb fawr o gyhoeddusrwydd. Mae'r ddogfen hon, a'r mapiau ategol, yn cadarnhau bod prosiect trydaneiddio Glynebwy—a dyfynnaf yn uniongyrchol o'r deunydd a gyhoeddwyd bellach gan Trafnidiaeth Cymru—'wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol'.

Yn yr un modd, diystyrwyd y gwaith o gysylltu Trelewis â gerllaw Mynwent y Crynwyr, gan gysylltu llinellau Merthyr Tudful a Rhymni i greu rheilffordd cylch y Cymoedd, fel y'i gelwir, argymhelliad a gynigiwyd gan Mick Antoniw. Mae'n gwrthod estyniad o Ferthyr Tudful i Ddowlais Top, ond mae'n cadarnhau gwasanaeth rheilffordd ysgafn newydd sbon ar y stryd rhwng Parc Cathays a Bae Caerdydd, yn lle'r bws plygu presennol. Nawr, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn cael £125 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w wario ar y metro. Pan ofynnoch amdano, addawodd eich Llywodraeth y byddai'n cael ei ddefnyddio i drydaneiddio holl rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd. Rydych bellach yn canslo hynny, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth y DU mewn perthynas â thrydaneiddio i Abertawe, gan barhau i wario ar drên bwled ar gyfer y bae. Cyhuddwyd y Llywodraeth Geidwadol, yn hollol iawn, o fradychu'r bobl sy'n byw i'r gorllewin o Gaerdydd. Onid yw'r Llywodraeth Lafur bellach yn gwneud yr un peth yn union i bobl sy'n byw yn y Cymoedd i'r gogledd?