Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Mawrth 2018.
Nid yw hyn yn gywir. Yn bennaf oll, rydym wedi ymgynghori, a chyhoeddi, ar sawl achlysur, yr amcanion lefel uchel ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau a datblygiad y metro. Bydd cynllun penodol y metro, a'r gwaith o adeiladu'r metro, yn digwydd wedi i'r dyfarniad gael ei wneud. Ond yr hyn sydd bwysicaf yw bod y teithwyr yn gweld gwelliannau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer. O ran trydaneiddio, ni allwn ddweud, hyd nes y gwneir y dyfarniad, beth yw'r atebion penodol ar gyfer pob un o'r rheilffyrdd yn ardal y metro. Felly, mae'n rhy gynnar i dybio nad yw'r broses o drydaneiddio holl reilffyrdd y Cymoedd wedi'i chynnwys yn unrhyw un o'r ceisiadau. Ni allaf ddatgelu beth sydd yn y ceisiadau, ond ni ellir dyfalu beth sydd ynddynt ar hyn o bryd.