Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, er iddo gael ei sefydlu yn 2013 i ddarparu mwy o werth i drethdalwyr Cymru, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi beirniadu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Nawr, ni all unrhyw un ddadlau nad yw wedi methu'n llwyr â darparu'r arbedion arfaethedig mewn gwariant cyhoeddus. Yn 2016-17, oddeutu 60 y cant yn unig o'r arbedion a ddisgwyliwyd a greodd, ac yn waeth byth, gwnaeth golled o oddeutu £2 miliwn yn 2015-16, ac yn 2016-17. Felly, a gaf fi ofyn pam fod polisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru wedi methu'n llwyr?