Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:36, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Nid cyfrifoldeb fy adran i yw hyn mewn gwirionedd. Cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ydyw.FootnoteLink Fodd bynnag, o ran y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi dweud yn glir, gyda'r contract economaidd, y gallem sicrhau cyfleoedd i ymestyn y contract economaidd—y £6 biliwn o gyfleoedd caffael ym mhwrs y wlad yng Nghymru. Dywedasom ein bod yn dymuno dadgyfuno cyfleoedd caffael a chontractau mawr fel y gall rhagor o fentrau bach a chanolig eu maint yng Nghymru gael rhan mewn prosiectau seilwaith gwerthfawr ledled y wlad.