Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:32, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, dyfynnaf o fapiau eich awdurdod, Trafnidiaeth Cymru. O dan 'coch', mae'n dweud,

Wedi'i hepgor o ystyriaethau yn y dyfodol ar hyn o bryd.

Rwy'n dyfynnu o ddatganiad eich awdurdod trafnidiaeth eich hun ar y pynciau hyn. Mae'n wir, wrth gwrs, y bydd rhywfaint o'r arian rydych wedi'i gael yn cael ei wario ar reilffyrdd y Cymoedd. Yn ôl yr un ddogfen, mae posibilrwydd y bydd rheilffyrdd craidd presennol y Cymoedd yn cael eu troi'n rheilffyrdd ysgafn. Ond unwaith eto, mae hwnnw'n bolisi y dylem ei drafod, oherwydd bydd rhai yn teimlo nad yw rheilffordd ysgafn yn briodol yn yr holl amgylchiadau—dros bellteroedd maith, er enghraifft, lle mae angen i drenau deithio'n gyflymach na 45 mya. Bydd yn datgysylltu rheilffyrdd craidd y Cymoedd oddi wrth y rhwydwaith rheilffyrdd trwm cenedlaethol, ac ni fydd modd cael unrhyw gerbydau nwyddau neu wibdeithiau, neu drenau trwodd, er enghraifft, i faes awyr Caerdydd byth eto. Er, dylwn nodi eich bod hefyd wedi diystyru cyswllt rheilffordd â maes awyr Caerdydd yn y ddogfen, ond ni ddywedwyd wrthym ynglŷn â hynny ychwaith. Pam na ddywedwyd wrthym am y penderfyniadau polisi hyn, fel y gallem eu trafod, ac fel y gall y bobl, gan mai eu gwasanaeth rheilffyrdd hwy yw hwn yn y pen draw— nid y Llywodraeth—ddweud eu barn ynglŷn ag ai dyma'r weledigaeth a'r blaenoriaethau roeddent yn dymuno'u gweld?