Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 7 Mawrth 2018.
Buaswn yn awgrymu bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn bolisi sydd wedi methu. Yn sicr, mae'n dreth barhaus ar bwrs y wlad. Byddaf yn dod at rai meysydd sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio. Nid yw busnesau bach a chanolig Cymru a chadwyni cyflenwi Cymru yn elwa ar wariant caffael Llywodraeth Cymru. Yn 2015-16, 52 y cant yn unig o wariant Llywodraeth Cymru ar nwyddau a gwasanaethau a aeth i gwmnïau yng Nghymru, ac mae cynllun gweithredu economaidd newydd eich Llywodraeth, sy'n rhan o'ch cyfrifoldeb chi, wrth gwrs, hefyd wedi methu darparu unrhyw fap manwl ac ystyrlon ar gyfer gwella caffael cyhoeddus yng Nghymru. Felly, a gaf fi ofyn cwestiwn sy'n sicr yn rhan o'ch portffolio? Pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r gwaith o wella caffael cyhoeddus yn y cynllun economaidd diweddaraf?