Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, mae hynny'n cael sylw yn y cynllun, fel y dywedaf, drwy'r broses o ddadgyfuno contractau mawr. Bydd hynny'n fuddiol iawn, o ystyried maint prosiectau seilwaith—yn enwedig ffyrdd. Ac rydym hefyd yn gweithio nid yn unig gyda chyrff diwydiant, ond hefyd gyda thimau sector o fewn y Llywodraeth, i nodi ffyrdd y gall busnesau weithio gyda'i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd sut i gael gafael ar gyfran fwy o wariant caffael yng Nghymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le ei fod oddeutu 52 y cant ar hyn o bryd—cyfran y contractau a enillir gan fusnesau Cymreig—ond mae'r ffigur hwnnw'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac rwy'n disgwyl, drwy'r mesurau a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd, a chyda'r mesurau ychwanegol a amlinellwyd gennyf drwy ein cyswllt uniongyrchol â busnesau a sefydliadau busnes, y byddwn yn gweld rhagor o gynnydd dros y blynyddoedd i ddod.