Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni nifer o welliannau i'r A40. Mae'n llwybr strategol allweddol, ac rwy'n falch o allu dweud bod ymchwiliadau rhagarweiniol eisoes wedi dechrau datblygu sawl cyfle arall i oddiweddyd ar hyd yr A40. Rydym ar hyn o bryd yn edrych i weld pa bryd y gellir darparu'r rhain ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a byddwn yn datblygu rhaglen maes o law. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a glustnodwyd ar gyfer y gwelliannau hyn yn cael ei sicrhau a'i ddefnyddio. Mae'r A40 yn llwybr pwysig iawn yng Nghymru, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i ddadlau'r achos dros fuddsoddiad pellach, nid yn unig ar gyfer cyfleoedd goddiweddyd ond lle bo'n bosibl, ar gyfer deuoli'r llwybr yn ogystal.