2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro? OAQ51833
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru, gan gynnwys yn Sir Benfro.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet fy nghlywed yn dadlau eto mai un ffordd o wella seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro yw drwy ddeuoli'r A40, a fyddai'n cael effaith ganlyniadol enfawr a chadarnhaol ar economi Sir Benfro, ac yn wir ar economi gorllewin Cymru yn gyffredinol. Byddai deuoli hefyd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn anffodus, ddoe, gwelsom ddamwain angheuol arall ar y ffordd hon. Yn ngoleuni'r manteision economaidd, ac yn bwysicach, y manteision diogelwch a allai ddod yn sgil deuoli'r ffordd, a wnewch chi yn awr ymrwymo i ddeuoli'r A40 yn Sir Benfro yn y tymor hir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau i'r A40 yn Sir Benfro beth bynnag?
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni nifer o welliannau i'r A40. Mae'n llwybr strategol allweddol, ac rwy'n falch o allu dweud bod ymchwiliadau rhagarweiniol eisoes wedi dechrau datblygu sawl cyfle arall i oddiweddyd ar hyd yr A40. Rydym ar hyn o bryd yn edrych i weld pa bryd y gellir darparu'r rhain ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a byddwn yn datblygu rhaglen maes o law. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd cyllid yr Undeb Ewropeaidd a glustnodwyd ar gyfer y gwelliannau hyn yn cael ei sicrhau a'i ddefnyddio. Mae'r A40 yn llwybr pwysig iawn yng Nghymru, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu i ddadlau'r achos dros fuddsoddiad pellach, nid yn unig ar gyfer cyfleoedd goddiweddyd ond lle bo'n bosibl, ar gyfer deuoli'r llwybr yn ogystal.
Tynnwyd cwestiwn 8 [OAQ51840] yn ôl. Felly, cwestiwn 9, Mark Reckless.