Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ni fydd yn syndod i Ysgrifennydd y Cabinet fy nghlywed yn dadlau eto mai un ffordd o wella seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro yw drwy ddeuoli'r A40, a fyddai'n cael effaith ganlyniadol enfawr a chadarnhaol ar economi Sir Benfro, ac yn wir ar economi gorllewin Cymru yn gyffredinol. Byddai deuoli hefyd yn gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn anffodus, ddoe, gwelsom ddamwain angheuol arall ar y ffordd hon. Yn ngoleuni'r manteision economaidd, ac yn bwysicach, y manteision diogelwch a allai ddod yn sgil deuoli'r ffordd, a wnewch chi yn awr ymrwymo i ddeuoli'r A40 yn Sir Benfro yn y tymor hir, o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau i'r A40 yn Sir Benfro beth bynnag?