Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Mawrth 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y cysyniad o fetro ar gyfer bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, yn amlwg, fel y soniwch, yn un i'w groesawu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pryderon yn ardal Castell-nedd Port Talbot mewn perthynas â'r angen i ddiogelu statws gorsaf drenau Castell-nedd fel rhan o unrhyw gynnig metro, a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?