2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ51830
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a ddiweddarwyd y llynedd, yn nodi ein rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Hoffwn ofyn: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried enillion cyflym fel ailagor gorsafoedd trenau megis Glandŵr, creu cyfnewidfeydd bysiau-trenau o fewn y rhanbarth a chwblhau llwybrau beicio?
Gwnaf, byddaf yn ystyried enillion cyflym o'r natur honno, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â theithio llesol, o ystyried fy mod wedi datgan awydd i weld cynnydd sylweddol yn argaeledd cyllid cyfalaf i gefnogi prosiectau teithio llesol. Mae cynnig i ailagor gorsaf Glandŵr yn cael ei ystyried fel rhan o asesiad Llywodraeth Cymru o gynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd. Byddwn yn cynnig gorsaf Glandŵr fel un opsiwn posibl i gael ei ystyried fel rhan o'r ymarfer a gynhelir gan Network Rail.
Fel rhan o ymgynghoriad y DU ar sefyllfa rheilffordd y Great Western yn y dyfodol, rwyf wedi cynnal fy arolwg trafnidiaeth fy hun yn lleol mewn gwirionedd, yn sôn yn bennaf am y posibilrwydd o barcffordd yn Felindre neu rywle tebyg. Roedd hynny'n eithaf poblogaidd, ond hefyd cafodd syniadau eu cyflwyno a oedd yn ymwneud â gwella'r cysylltiadau rheilffyrdd mewnol lleol yn ogystal, fel y soniodd Mike Hedges, i helpu i leihau tagfeydd a bwydo i mewn i'r hyn y gall parcffordd ei wneud, oherwydd un o fanteision parcffordd, wrth gwrs, yw y byddai'n gallu helpu i symud pobl a thraffig tua'r gorllewin i mewn i ardal y fargen ddinesig, nid yn unig tua'r dwyrain fel y byddem yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, mae yna elfen DU i hyn. A ydych wedi cael cyfle eto i drafod y cyfleoedd y byddai parcffordd yn eu cynnig i ranbarth y fargen ddinesig yn ei chyfanrwydd, nid yn unig i Abertawe ei hun?
Do, yn wir. Mewn gwirionedd, y bore yma, cyfarfûm â'r Cynghorydd Rob Stewart i drafod llawer o faterion, gan gynnwys yr un a nodwyd gan yr Aelod, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, efallai, pe bawn yn cynnig i'r Aelodau weld fy ymateb i'r ymgynghoriad ar lwybr masnachfraint rheilffordd y Great Western. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n dangos sut y mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud nifer o bethau o ran gwella gwasanaethau i deithwyr, a gwelliannau i amseroedd teithio ac amlder gwasanaethau yn ogystal. Credaf y gallai fod yn adeg gyffrous i ranbarth bae Abertawe. Wrth gwrs, cawsom y penderfyniad trist ac anffodus iawn ynghylch trydaneiddio, ond rydym yn ariannu gwaith sy'n ymwneud â datblygiad posibl prosiect metro, a chredaf fod ganddo botensial mawr i weddnewid y rhanbarth yn radical a dod â mwy o ffyniant a chyfleoedd ar gyfer twf i fae Abertawe a'r cymunedau cyfagos.
Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y cysyniad o fetro ar gyfer bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, yn amlwg, fel y soniwch, yn un i'w groesawu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod pryderon yn ardal Castell-nedd Port Talbot mewn perthynas â'r angen i ddiogelu statws gorsaf drenau Castell-nedd fel rhan o unrhyw gynnig metro, a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r pryderon hynny?
Wel, rwy'n credu bod yr awdurdod lleol wedi gwneud ei safbwynt ynghylch gorsaf Castell-nedd yn glir iawn. Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ac rwy'n derbyn y ddadl y dylid gwella yn ogystal â diogelu gorsaf Castell-nedd, a llawer o orsafoedd eraill yn yr ardal yn wir. Byddaf yn edrych ar unrhyw gynigion o fewn y weledigaeth ar gyfer y metro a fydd yn sicrhau gwell seilwaith ar draws y rhwydwaith cyfan.