Cynlluniau Trafnidiaeth ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:54, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Do, yn wir. Mewn gwirionedd, y bore yma, cyfarfûm â'r Cynghorydd Rob Stewart i drafod llawer o faterion, gan gynnwys yr un a nodwyd gan yr Aelod, ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, efallai, pe bawn yn cynnig i'r Aelodau weld fy ymateb i'r ymgynghoriad ar lwybr masnachfraint rheilffordd y Great Western. Ac rwy'n credu y bydd hynny'n dangos sut y mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud nifer o bethau o ran gwella gwasanaethau i deithwyr, a gwelliannau i amseroedd teithio ac amlder gwasanaethau yn ogystal. Credaf y gallai fod yn adeg gyffrous i ranbarth bae Abertawe. Wrth gwrs, cawsom y penderfyniad trist ac anffodus iawn ynghylch trydaneiddio, ond rydym yn ariannu gwaith sy'n ymwneud â datblygiad posibl prosiect metro, a chredaf fod ganddo botensial mawr i weddnewid y rhanbarth yn radical a dod â mwy o ffyniant a chyfleoedd ar gyfer twf i fae Abertawe a'r cymunedau cyfagos.