Twristiaeth yn Ne-orllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:56, 7 Mawrth 2018

Er mwyn gwella twristiaeth, rydym ni, wrth gwrs, yn buddsoddi fel Llywodraeth ar draws Cymru. Yn 2017, yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, y mae'r Aelod yn ei gynrychioli, roedd hynny'n cynnwys meysydd parcio i geir a choetsis yn Rhosili; gwelliannau sylweddol i westy Fairyhill, y ces i gyfle i ymweld ag o yn gymharol ddiweddar a gweld effaith y gwelliannau ar y cynnig i ymwelwyr i fod yn rhan o ardal o harddwch naturiol eithriadol wrth fwynhau eu gwyliau; datblygiad yn siop goffi Three Cliffs; yn ogystal â chefnogaeth, mae'n dda gen i ddweud, i'r gwesty hanesyddol hwnnw, Gwesty’r Castell, Castle Hotel, yng Nghastell-nedd—un o'r gwestyau pwysicaf, wrth gwrs, yn hanes datblygiad chwaraeon yng Nghymru.