Twristiaeth yn Ne-orllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:57, 7 Mawrth 2018

Diolch am yr esboniad clir hwnnw o'r hyn sydd yn bwysig i fy ardal i ac eraill yn yr ystafell yma. Rwy'n gofyn y cwestiwn oherwydd un o brif bwyntiau eich cynllun economaidd yw twristiaeth a diwylliant. Rŷm ni wedi gweld yn ardal Castell-nedd Port Talbot fod yr awdurdod lleol wedi cynnig bod toriadau'n cael eu gwneud i amgueddfa Cefn Coed, sydd yn rhywbeth y dylem ni ei adfer a'i ddatblygu yn yr ardal. Hefyd, maen nhw wedi cynnig toriadau o 30.6 y cant i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe, sydd hefyd yn bwysig fel canolfan celfyddydol byw yn yr ardal honno, ond hefyd ar gyfer cymoedd Abertawe ac Abertawe a Chastell-nedd yn fwy cyffredinol. Sut fydd y toriadau yma yn cyd-fynd â'r system economaidd sydd gyda chi fel Llywodraeth o hybu a datblygu twristiaeth a'r celfyddydau yn lleol?