2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella twristiaeth yn ne-orllewin Cymru? OAQ51853
Er mwyn gwella twristiaeth, rydym ni, wrth gwrs, yn buddsoddi fel Llywodraeth ar draws Cymru. Yn 2017, yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, y mae'r Aelod yn ei gynrychioli, roedd hynny'n cynnwys meysydd parcio i geir a choetsis yn Rhosili; gwelliannau sylweddol i westy Fairyhill, y ces i gyfle i ymweld ag o yn gymharol ddiweddar a gweld effaith y gwelliannau ar y cynnig i ymwelwyr i fod yn rhan o ardal o harddwch naturiol eithriadol wrth fwynhau eu gwyliau; datblygiad yn siop goffi Three Cliffs; yn ogystal â chefnogaeth, mae'n dda gen i ddweud, i'r gwesty hanesyddol hwnnw, Gwesty’r Castell, Castle Hotel, yng Nghastell-nedd—un o'r gwestyau pwysicaf, wrth gwrs, yn hanes datblygiad chwaraeon yng Nghymru.
Diolch am yr esboniad clir hwnnw o'r hyn sydd yn bwysig i fy ardal i ac eraill yn yr ystafell yma. Rwy'n gofyn y cwestiwn oherwydd un o brif bwyntiau eich cynllun economaidd yw twristiaeth a diwylliant. Rŷm ni wedi gweld yn ardal Castell-nedd Port Talbot fod yr awdurdod lleol wedi cynnig bod toriadau'n cael eu gwneud i amgueddfa Cefn Coed, sydd yn rhywbeth y dylem ni ei adfer a'i ddatblygu yn yr ardal. Hefyd, maen nhw wedi cynnig toriadau o 30.6 y cant i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe, sydd hefyd yn bwysig fel canolfan celfyddydol byw yn yr ardal honno, ond hefyd ar gyfer cymoedd Abertawe ac Abertawe a Chastell-nedd yn fwy cyffredinol. Sut fydd y toriadau yma yn cyd-fynd â'r system economaidd sydd gyda chi fel Llywodraeth o hybu a datblygu twristiaeth a'r celfyddydau yn lleol?
Wel, mae twristiaeth, wrth gwrs, yn un o'r diwydiannau sylfaenol sydd wedi'u nodi yn y cynllun economaidd. Nid ydym ni fel Llywodraeth yn gyfrifol am benderfyniadau gan awdurdodau lleol ynglŷn â'u cyllideb nhw, ond rwy'n meddwl y byddai fo'n adeiladol iawn pe byddai awdurdodau lleol yn gwneud beth y ces i gyfle i gymryd rhan ynddo fo yn sir Gaerfyrddin yn ddiweddar iawn, sef cael trafodaeth hir a manwl ynglŷn â blaenoriaethau yr awdurdod, ac yn arbennig lle roedd y cyngor sir yn gweld cyfle i fanteisio ar amrywiol gynlluniau sydd yn dod o fewn cyllideb yr adran rwy'n gyfrifol amdani, ond yn arbennig y cynlluniau sydd yn darparu ar gyfer twristiaeth ond sydd hefyd yn darparu yn yr un modd tuag at drigianwyr ac ymwelwyr lleol. Felly, nid wyf i am wneud sylw am benderfyniad awdurdodau lleol, ond mi fyddai o'n haws o lawer pe byddai awdurdodau yn trafod eu blaenoriaethau gyda Llywodraeth Cymru yn y gwahanol feysydd yma.
Weinidog, fe ddechreuoch chi yn Abertawe, fe aethoch i Gastell-nedd—dewch i Aberafan i weld rhai o'r safleoedd gwych ar gyfer twristiaeth ym Mharc Margam a chwm Afan. Mae llawer o gymunedau glofaol yng nghwm Afan a chymoedd eraill wedi troi at dwristiaeth fel cyfle i edrych ar dyfu'r economi mewn gwirionedd. Mae gennym brosiectau yng nghwm Afan. Gwn fod twnnel y Rhondda yn mynd rhwng y Rhondda a chwm Afan, ond ceir prosiect cwm Afan hefyd—y prosiect cyrchfan a gynigiwyd. Mae'r rhain yn gyfleoedd sy'n rhoi swyddi a sgiliau i bobl leol y gallant eu defnyddio yn eu hardaloedd lleol. A wnewch chi ymweld â'r safle hwnnw i edrych arno ac i sicrhau bod twristiaeth yn gallu gwneud i gymuned ffynnu mewn gwirionedd a dechrau datblygu ei hun, yn seiliedig ar y ffaith ei bod wedi cael cyfnod hir lle y bu diffyg twf yn yr economi yn sgil colli'r diwydiannau hynny?
Wel, prin y gallaf ddweud 'na' wrthych â chithau'n eistedd yno. [Chwerthin.] Rydym yn hen ffrindiau, yn amlwg, yn ogystal â chymdogion. Ond o ddifrif, rwyf wedi bod yn ceisio ymweld â chynifer o'r safleoedd hyn â phosibl. Roeddwn yng Nghwmcarn yn ddiweddar, lle y gwelais sut y gall datblygu'r berthynas rhwng y llwybrau a choedwigaeth, sydd wedi cael problemau difrifol, a'r ffordd y gall awdurdod lleol, drwy ddatblygu canolfan wych, chwarae rhan yn y broses o ddatblygu twristiaeth, yn enwedig twristiaeth sy'n seiliedig ar feicio. Roeddwn hefyd, wrth gwrs, yn fy rhan i o'r byd yng Nghoed y Brenin, y gallai rhywun ei ddisgrifio fel ail yn unig i gwm Afan—[Chwerthin.]—fel canolfan dwristiaeth a beicio mynydd. Yn sicr, fe ddof i gwm Afan, ond ni allaf ond canmol ymdrechion ein holl gymunedau mwyngloddio, y cymunedau glofaol, y cymunedau mwyngloddio plwm yn yr ardal lle rwy'n byw, a chymunedau'r chwareli llechi wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu'n aruthrol at y cynnig twristiaeth sydd ar gael bellach, ac rwy'n gobeithio ymweld â Zip World a Surf Snowdonia a rhai eraill o'r cyfleusterau hyn, nad oes yr un ohonynt yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ond nad ydynt yn rhy bell o'r ardal lle rwy'n byw. Felly, rwy'n gweithio ar hynny, Dai.