Cynlluniau Trafnidiaeth ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:52, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, byddaf yn ystyried enillion cyflym o'r natur honno, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â theithio llesol, o ystyried fy mod wedi datgan awydd i weld cynnydd sylweddol yn argaeledd cyllid cyfalaf i gefnogi prosiectau teithio llesol. Mae cynnig i ailagor gorsaf Glandŵr yn cael ei ystyried fel rhan o asesiad Llywodraeth Cymru o gynigion ar gyfer gorsafoedd trenau newydd. Byddwn yn cynnig gorsaf Glandŵr fel un opsiwn posibl i gael ei ystyried fel rhan o'r ymarfer a gynhelir gan Network Rail.