Cynlluniau Trafnidiaeth ar gyfer Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:53, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Fel rhan o ymgynghoriad y DU ar sefyllfa rheilffordd y Great Western yn y dyfodol, rwyf wedi cynnal fy arolwg trafnidiaeth fy hun yn lleol mewn gwirionedd, yn sôn yn bennaf am y posibilrwydd o barcffordd yn Felindre neu rywle tebyg. Roedd hynny'n eithaf poblogaidd, ond hefyd cafodd syniadau eu cyflwyno a oedd yn ymwneud â gwella'r cysylltiadau rheilffyrdd mewnol lleol yn ogystal, fel y soniodd Mike Hedges, i helpu i leihau tagfeydd a bwydo i mewn i'r hyn y gall parcffordd ei wneud, oherwydd un o fanteision parcffordd, wrth gwrs, yw y byddai'n gallu helpu i symud pobl a thraffig tua'r gorllewin i mewn i ardal y fargen ddinesig, nid yn unig tua'r dwyrain fel y byddem yn ei ddisgwyl. Yn amlwg, mae yna elfen DU i hyn. A ydych wedi cael cyfle eto i drafod y cyfleoedd y byddai parcffordd yn eu cynnig i ranbarth y fargen ddinesig yn ei chyfanrwydd, nid yn unig i Abertawe ei hun?