Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, prin y gallaf ddweud 'na' wrthych â chithau'n eistedd yno. [Chwerthin.] Rydym yn hen ffrindiau, yn amlwg, yn ogystal â chymdogion. Ond o ddifrif, rwyf wedi bod yn ceisio ymweld â chynifer o'r safleoedd hyn â phosibl. Roeddwn yng Nghwmcarn yn ddiweddar, lle y gwelais sut y gall datblygu'r berthynas rhwng y llwybrau a choedwigaeth, sydd wedi cael problemau difrifol, a'r ffordd y gall awdurdod lleol, drwy ddatblygu canolfan wych, chwarae rhan yn y broses o ddatblygu twristiaeth, yn enwedig twristiaeth sy'n seiliedig ar feicio. Roeddwn hefyd, wrth gwrs, yn fy rhan i o'r byd yng Nghoed y Brenin, y gallai rhywun ei ddisgrifio fel ail yn unig i gwm Afan—[Chwerthin.]—fel canolfan dwristiaeth a beicio mynydd. Yn sicr, fe ddof i gwm Afan, ond ni allaf ond canmol ymdrechion ein holl gymunedau mwyngloddio, y cymunedau glofaol, y cymunedau mwyngloddio plwm yn yr ardal lle rwy'n byw, a chymunedau'r chwareli llechi wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu'n aruthrol at y cynnig twristiaeth sydd ar gael bellach, ac rwy'n gobeithio ymweld â Zip World a Surf Snowdonia a rhai eraill o'r cyfleusterau hyn, nad oes yr un ohonynt yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ond nad ydynt yn rhy bell o'r ardal lle rwy'n byw. Felly, rwy'n gweithio ar hynny, Dai.