Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 7 Mawrth 2018.
Weinidog, fe ddechreuoch chi yn Abertawe, fe aethoch i Gastell-nedd—dewch i Aberafan i weld rhai o'r safleoedd gwych ar gyfer twristiaeth ym Mharc Margam a chwm Afan. Mae llawer o gymunedau glofaol yng nghwm Afan a chymoedd eraill wedi troi at dwristiaeth fel cyfle i edrych ar dyfu'r economi mewn gwirionedd. Mae gennym brosiectau yng nghwm Afan. Gwn fod twnnel y Rhondda yn mynd rhwng y Rhondda a chwm Afan, ond ceir prosiect cwm Afan hefyd—y prosiect cyrchfan a gynigiwyd. Mae'r rhain yn gyfleoedd sy'n rhoi swyddi a sgiliau i bobl leol y gallant eu defnyddio yn eu hardaloedd lleol. A wnewch chi ymweld â'r safle hwnnw i edrych arno ac i sicrhau bod twristiaeth yn gallu gwneud i gymuned ffynnu mewn gwirionedd a dechrau datblygu ei hun, yn seiliedig ar y ffaith ei bod wedi cael cyfnod hir lle y bu diffyg twf yn yr economi yn sgil colli'r diwydiannau hynny?