Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 7 Mawrth 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn pellach. Fe fydd yn glir i'r rhai sy'n dilyn y drafodaeth hon nad oes unrhyw gefnogaeth yn y Siambr i'r penderfyniad a wnaed i ddyfarnu'r cyfle penodol hwn i ddarlledu. Mae'n bwysig iawn, fel rydych wedi nodi o'ch profiad eich hun, fod cyfle i bobl ddilyn darllediadau o ddigwyddiadau chwaraeon o bwys yn agored, gan arwain at gyfranogiad, recriwtio cefnogwyr sy'n cynnig eu cefnogaeth gydol oes i rygbi, fel y mae llawer ohonom yma yn ei wneud i rygbi—ac yn wir i bêl-droed—yng Nghymru. Felly, mae'n hollbwysig y dylem, fel Llywodraeth, barhau i drafod gyda'r sefydliadau chwaraeon rydym yn eu cefnogi mewn gwirionedd, fel y nodwyd eisoes. Mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn heddiw yn rhai—rwy'n ymrwymo i hyn—y byddaf yn eu gofyn yn bersonol, nid yn unig i Undeb Rygbi Cymru, ac felly drwyddynt hwy i Pro14, ond hefyd: beth yw'r canlyniadau, i rygbi cymunedol ac i'r uwch gynghrair? Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y byddem eisiau ei ystyried fel Llywodraeth, ac rwy'n rhoi'r ymrwymiad rydych yn gofyn amdano.