Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a buaswn yn dweud mai cychwyn yn unig ar fy uchelgais ar gyfer lesddeiliadaeth yw'r cyhoeddiad a wneuthum yr wythnos hon, a chychwyn ar y camau rwy'n bwriadu eu cymryd yn y maes hwn. Byddwch yn cofio ein bod wedi cael dadl wirioneddol addysgiadol a defnyddiol yma yn y Siambr ddiwedd mis Ionawr, ac fe ymrwymais bryd hynny i gyflwyno cynifer o gamau cynnar ag y gallwn, ac mae'r cyhoeddiadau a wneuthum yr wythnos hon yn driw i'r ymrwymiad a wneuthum bryd hynny, ond dechrau'n unig yw hyn.
Rwy'n ailadrodd nad wyf yn diystyru'r posibilrwydd o ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod y gallai fod angen deddfwriaeth er mwyn datrys y problemau ehangach ac i wneud lesddeiliadaeth, neu ddeiliadaeth amgen, yn addas ar gyfer y farchnad dai fodern. Er mwyn nodi ein ffordd ymlaen, rydym yn ymgysylltu â phrosiect Comisiwn y Gyfraith, sy'n edrych ar y mater hwn, a phan fyddwn wedi cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith a'n hymchwil ein hunain a gomisiynais i'r mater hwn hefyd, byddaf yn gallu nodi'r camau nesaf. Ond yn y cyfamser, byddaf yn ystyried defnyddio pob un o'r llwybrau sydd ar gael i ni.
O ran cynorthwyo pobl sydd ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i'r cytundebau a wnaethant drwy'r contractau lesddaliad sydd ganddynt, rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau hynny. Credaf fod pob un ohonom, bron bob dydd ar hyn o bryd—mae'n wir yn fy achos i, yn sicr—mewn cysylltiad dyddiol â phobl sy'n cael problemau ar hyn o bryd. Mae rhai pobl yn credu eu bod wedi cael cyngor gwael neu heb gael eu cynghori o gwbl o ran yr hyn y mae lesddaliad yn ei olygu iddynt, a dylent geisio cael iawn drwy'r dull sefydledig sy'n bodoli eisoes.
Gellir cyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud â'r gost o brynu rhydd-ddaliad, cynnydd yn y rhent tir a thaliadau gwasanaeth—dyna'r pethau y mae pawb ohonom yn clywed amdanynt yn rheolaidd—at y tribiwnlys prisio lesddaliadau am ddatrysiad, ac mae'r gwasanaeth cynghori ar lesddaliadau mewn sefyllfa dda hefyd i helpu lesddeiliaid ac i helpu gyda'r dasg o ddiwygio lesddeiliadaeth yn gyffredinol yn ogystal. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau wedi'i sefydlu ers 20 mlynedd. Maent yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i lesddeiliaid, landlordiaid, cynghorwyr proffesiynol, rheolwyr ac eraill ar y gyfraith sy'n effeithio ar lesddaliadau preswyl yng Nghymru a Lloegr, a dylai pobl sydd â phryderon yn y maes gysylltu â hwy yn y lle cyntaf.
Ond fel y dywedais, cam cyntaf oedd y cyhoeddiad yr wythnos hon, a gellid cymryd rhai o'r camau cynnar a welais yn eithaf didrafferth, yn dilyn y trafodaethau a gawsom ym mis Ionawr.