Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 7 Mawrth 2018.
Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno'r cwestiwn hwn oherwydd credaf y byddai wedi bod o fudd i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog ar hyn. Ond yn eich datganiad, fe ysgrifennoch na fyddai'r pum datblygwr y mae gennych gytundebau â hwy ond yn adeiladu lesddaliadau o dan amgylchiadau y bernir gennych chi eu bod yn gwbl angenrheidiol. Tybed a allech egluro'r hyn y byddech chi a'r datblygwyr hyn yn ei farnu'n gwbl angenrheidiol.
Mae fy ail bwynt yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding AC hefyd. Un rhan fach yn unig o'r farchnad yw Cymorth i Brynu, ac rydym eisiau sicrwydd y bydd y rheini sydd eisoes yn gaeth i'r amgylchiad penodol hwn yn cael yr un hawliau â'r rhai sy'n rhan o'r cynllun Cymorth i Brynu.
Roeddwn am wneud y pwynt canlynol, yn deillio o'r hyn a ddywedwyd ddoe, rwy'n credu, gan Hefin David: rwy'n credu bod y ffioedd rheoli a orfodir mewn perthynas â lesddaliadau yn fom sy'n tician. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod yn teimlo bod system ddwy haen ar waith, lle maent yn talu ffioedd rheoli i wneud yr un peth ag y maent yn talu eu treth gyngor i'w wneud, mewn perthynas â chynnal gerddi neu godi sbwriel. Felly, hoffwn i chi edrych ar hyn, yn nes ymlaen, yn ogystal ag ymhelaethu ar y datganiad rydych eisoes wedi'i wneud.