Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 7 Mawrth 2018.
Yn anffodus, ni allaf ddilyn rhesymeg y ddadl honno. Mae ein perthynas ag S4C, fel Llywodraeth Cymru, wedi'i hanelu'n benodol at gefnogi eu gweithgareddau yn datblygu rygbi cymunedol. Ac yn amlwg, ceir cysylltiad agos rhwng rygbi cymunedol a'r posibilrwydd y bydd gwylwyr yng Nghymru yn gallu dilyn gemau rygbi rhanbarthol Pro14. Rwyf wedi cyfarfod yn ddiweddar gydag Undeb Rygbi Cymru, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, ac o ganlyniad i'r drafodaeth hon heddiw, y byddant wedi'i chlywed, gallaf eich sicrhau y byddaf yn mynd ar drywydd pob llwybr posibl, ar wahân i geisio ymyrryd mewn penderfyniad masnachol. Oherwydd mae'n rhaid i ni ei gwneud yn gwbl glir nad bwriad y Llywodraeth hon yw niweidio ein perthynas â chyrff sy'n gwneud penderfyniadau masnachol y gallem fod yn anghytuno â hwy.