Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 7 Mawrth 2018.
A gaf fi yn gyntaf ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gyflwyniad manwl iawn o'r adroddiad a'r dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni gefnogi hynny. Rydym yn sôn am Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn amlwg—rhywbeth na fydd yn digwydd o bosibl, yn dibynnu ar beth sy'n digwydd yn yr wythnosau sy'n dod. Ond mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, oherwydd pa Fil bynnag a fydd gennym yn y pen draw, mae angen inni sicrhau bod gennym broses graffu briodol ar gyfer y Bil penodol hwnnw.
Edrychodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Bil ymadael â'r UE yn fanwl iawn hefyd, a chawsom sesiynau ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn. Ond rydym wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE i Aelodau Seneddol a chawsant eu derbyn i gyd a'u symud ymlaen gan Aelodau Seneddol yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn anffodus, ni chafodd yr un ohonynt eu derbyn gan y Llywodraeth. Ond nodwyd chwe amcan gennym ar y cam hwnnw, ac un ohonynt oedd sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil wedi'u cyfyngu'n llym, ac wedi'u llunio'n llawer tynnach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil. Oherwydd rydym yn cydnabod yr angen pwysig i Weinidogion fod yn atebol i'r ddeddfwrfa hon a pheidio â chael y pwerau eang a phellgyrhaeddol roedd y Bil yn ei argymell. Fel y crybwyllwyd, mae pwerau Harri VIII yn eang iawn ac yn weithdrefnau negyddol yn aml iawn. Nid oeddem yn cytuno â hynny. Bu'n rhaid inni sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn atebol i'r sefydliad hwn, a'n bod yn gallu cyfyngu ar eu pwerau yn yr ystyr honno. Buaswn yn cydnabod bod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr un farn a phryderon ynglŷn â hynny ag a fynegwyd gan lawer, gyda llaw, mewn pwyllgorau eraill ar draws Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Felly, nid yw hynny'n newydd, ond fe ganolbwyntiom ar hynny.
Nodwyd gennym hefyd mai amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei threfniadau craffu ei hun, a chredaf fod hynny'n hanfodol iawn. Cydnabyddir gan y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mai mater i'r Cynulliad yn unig, fel y sefydliad sy'n atebol yn ddemocrataidd ar gyfer Cymru, yw pennu ei weithdrefnau ei hun. Mae honno'n ffaith bwysig y dylem ei chofio. Byddai'r Bil fel y'i drafftiwyd, mewn gwirionedd, yn tanseilio'r agwedd gyfansoddiadol honno drwy geisio pennu, ar ein rhan ni fel y Cynulliad, y gweithdrefnau a fydd yn gymwys i graffu ar is-ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn y dull sifftio a roddir ar waith—nid yw'n mynd â hynny oddi wrthym—yn y Bil; mae hwnnw'n dal i fod yno. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny ac rydym wedi tynnu sylw at hyn. Mae'r Bil ymadael yn ceisio gosod gweithdrefn arnom, fel Cynulliad, heb unrhyw ymgynghori. A heb gydnabod ein barn a fynegwyd yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, roedd y Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen â hynny.
Dywedodd yr Athro John Bell, mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, fod
Y darpariaethau ar gyfer Craffu yn annigonol... Nid yw'r Bil yn cydnabod maint y dasg, ac felly yr angen i gael gweithdrefnau wedi'u cynllunio'n wahanol er mwyn sicrhau bod gwaith craffu digonol yn digwydd... Mae'r Bil yn rhagdybio y bydd gweithdrefnau presennol yn cael eu defnyddio, ond nid yw hynny'n bosibl. Mae angen rhoi sylw difrifol iawn i sut y bydd craffu'n gweithredu.
Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i edrych ar yr agweddau hynny ar graffu, oherwydd roeddem yn pryderu'n fawr ynglŷn â sut y byddem ni fel sefydliad yn gallu craffu ar is-ddeddfwriaeth a oedd yn mynd drwy'r Senedd yn arbennig, gan effeithio ar gymhwysedd datganoledig, ond ni fyddai gennym unrhyw allu i gyflwyno sylwadau yn ei chylch.
Rhoddodd y Sefydliad Materion Cymreig dystiolaeth ysgrifenedig i ni:
Rhoddir pwerau cyfatebol i sefydliadau datganoledig gan gymal 10 ac atodlen 2, sy'n golygu y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd gymryd pwerau Harri VIII o dan y Bil hwn pe baent yn dymuno. Wrth gwrs, byddai'n anfoddhaol i weld y pŵer hwn yn cael ei efelychu yng Nghymru, heb weithredu i ailgydbwyso'r systemau craffu sydd ar gael... Ni ddylai diffygion mewn craffu seneddol gael eu hefelychu yng Nghaerdydd.
Felly, mae angen diwygio'r Bil hwn. Mae angen cefnogi'r adroddiad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y neges yn gwbl glir y dylai sefydliadau datganoledig gael yr hawl i bennu eu gweithdrefnau craffu eu hunain a dylem hefyd ddilyn esiampl y dull sifftio, a galluogi pwyllgor i ymgymryd â'r dasg pan geir gweithdrefn negyddol, er mwyn asesu'r eitem honno o is-ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu cefnogaeth lawn i'r cynnig.