– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 7 Mawrth 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw ar Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor, i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Cynnig NDM6680 Mick Antoniw
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2018.
2. Yn cymeradwyo argymhellion 1, 2, 4 a 7 o'r adroddiad, sy'n argymell gwelliannau i Fil Llywodraeth y DU, Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Diolch ichi, Lywydd. Gallaf deimlo'r cyffro yn yr awyr yn yr ystyr fod pawb ohonoch wedi aros am yr adroddiad hwn, ac fe wnaf fy ngorau i beidio â'ch siomi. Gosodwyd ein hadroddiad ar graffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar 16 Chwefror, ac rydym wedi gwneud saith o argymhellion. Cyn imi siarad am ein canfyddiadau, roeddwn eisiau egluro'n fyr beth oedd cyd-destun y gwaith a nodi hefyd beth y ceisiem ei gyflawni.
Er eglurder, hoffwn ailadrodd diben y Bil ymadael, sef rhoi diwedd ar oruchafiaeth cyfraith yr UE yng nghyfraith y DU a throsi cyfraith yr UE, fel y saif ar adeg ymadael, yn gyfraith ddomestig. Mae hefyd yn creu pwerau dros dro i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau a fydd yn galluogi cywiriadau i gael eu gwneud, gan sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n briodol pan fydd y DU wedi gadael yr UE. Bydd hyn yn galluogi'r system gyfreithiol ddomestig i barhau i weithio'n iawn y tu allan i'r UE. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Bil yn gosod fframwaith newydd o'r enw 'cyfraith yr UE a ddargedwir' yn lle fframwaith Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, gan ddarparu sylfaen i Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig allu gwneud eu cyfreithiau eu hunain. Dywedais wrthych na fyddwn yn eich siomi cyn belled.
Mae'r Bil yn hollti cyfraith yr UE a ddargedwir yn dri math: deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE o dan gymal 2 y Bil; deddfwriaeth uniongyrchol o'r UE o dan gymal 3 y Bil; a hawliau, pwerau, rhwymedigaethau ac ati sy'n codi o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o dan gymal 4 y Bil. Fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, mae'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio un math o gyfraith yr UE a ddargedwir, sef deddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE. Nawr, er bod y Bil wedi ei ddiwygio yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin i ganiatáu i Weinidogion Cymru hefyd ddiwygio deddfwriaeth UE uniongyrchol mewn meysydd datganoledig, nid oes modd arfer y pŵer hwnnw oni bai lle y cytunwyd nad oes angen fframwaith cyffredin mewn maes datganoledig penodol. O ran gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, mae'r Bil yn cynnwys cymysgedd cymhleth o bwerau y gellir eu harfer naill ai ar yr un pryd neu ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU.
Prif nod ein gwaith oedd ystyried cwmpas a natur y pwerau gwneud rheoliadau sydd i'w harfer mewn perthynas â Chymru gan Lywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y gweithdrefnau sydd i'w cysylltu wrth y gwaith o graffu ar y rheoliadau hynny. Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar y gwelliannau y credwn fod angen eu gwneud i'r Bil, ac wrth wneud hynny maent yn ateb y cwestiynau a godwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr at y Llywydd ym mis Ionawr eleni, llythyr sydd i'w weld ar ein gwefan.
Cafodd ein hadroddiad ei lywio gan gynhadledd i randdeiliaid a gynhaliwyd fis Medi diwethaf, ymgynghoriad cyffredinol a phanel o arbenigwyr sydd â phrofiad o lunio is-ddeddfwriaeth. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Rydym hefyd wedi ystyried adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill yn Nhy'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi a archwiliodd y broses o wneud is-ddeddfwriaeth ar y Bil.
Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'r Bil ymadael â'r UE wedi cael ei feirniadu'n hallt am y ffordd y mae pwerau i wneud rheoliadau i gael eu harfer, gyda llawer o bwyllgorau seneddol o'r deddfwrfeydd yn y DU yn mynegi pryder ynghylch trosglwyddo gormod o bŵer o'r ddeddfwrfa i'r llywodraeth. Yn benodol, mae hyn i'w gyflawni drwy ddefnyddio pwerau Harri VIII helaeth, gyda'r weithdrefn gadarnhaol i'w defnyddio mewn amgylchiadau mwy cyfyngedig nag y byddai disgwyl fel arfer.
Mewn rhai o'n datganiadau cychwynnol ar oblygiadau deddfu i adael yr UE, rydym wedi nodi rhai egwyddorion cyfansoddiadol pwysig y credwn y dylent fod yn berthnasol i rôl y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, gan ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth fel y bo'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, a'r weithdrefn sydd i'w chymhwyso i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth honno.
Nawr, rydym yn cydnabod bod y ffaith bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn her ddeddfwriaethol unigryw a chymhleth sy'n rhaid ei chyflawni o fewn amser byr. Yn yr amgylchiadau hyn, ac am resymau ymarferol, rydym yn derbyn y bydd angen i'r Bil ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru allu gwneud is-ddeddfwriaeth ac yn unol â hynny, bydd angen iddo bennu'r weithdrefn sydd ynghlwm wrth y pwerau hynny. Rydym yn pwysleisio na ddylid ystyried bod y dull hwn o weithredu yn ildio'r egwyddorion pwysig hyn neu ein pryderon cyffredinol ynglŷn ag ymagwedd y Bil tuag at ddatganoli, yn enwedig mewn perthynas â chymal 11. Yn hytrach, dyma ymateb pragmatig i raddfa a her y dasg unigryw o'n blaenau er mwyn sicrhau llyfr statud gweithredol.
Nawr, hoffwn rannu'r araith yn ddwy ran. Yn gyntaf, byddaf yn ystyried argymhellion 1, 2, 4 a 7, sy'n ymdrin â materion rydym yn ystyried eu bod yn galw am ddiwygio Bil Llywodraeth y DU ac sy'n destun pwynt 2 y cynnig, ac yna, yn ail, byddaf yn ystyried yr argymhellion eraill a'u goblygiadau ar gyfer y Rheolau Sefydlog, y bydd angen rhoi sylw iddynt yn nes ymlaen.
O ran argymhellion 1, 2, 4 a 7, yn ystod ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin, diwygiwyd y Bil i gymhwyso dull sifftio ar gyfer yr holl reoliadau sydd i'w gwneud o dan gymalau 7, 8 a 9 gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, sy'n ymwneud â thrin diffygion yn deillio o ymadael, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a gweithredu'r cytundeb ymadael. O fewn 10 diwrnod i'w osod, rhaid i bwyllgor sifftio benderfynu a ddylai'r rheoliad fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn lle hynny, er nad yw argymhelliad o'r fath yn rhwymol. Credwn fod y dull sifftio ar gyfer Tŷ'r Cyffredin sydd bellach wedi'i gynnwys o fewn y Bil yn gam cadarnhaol ymlaen, gan wella lefel y craffu sydd ynghlwm wrth is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil hwnnw. Yn unol â hynny, mae argymhelliad 1 yn darparu y dylid diwygio'r Bil i gymhwyso'r dull sifftio ar gyfer pob un o'r rheoliadau a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a bod pwyllgor yma'n gyfrifol am wneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau.
Fodd bynnag, rhannwn bryderon Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoliadol Tŷ'r Arglwyddi nad yw'r mecanwaith cyfredol o fewn y Bil yn ddigon cryf. Felly, mae argymhelliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i argymhelliad pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu fel arall. Bydd yr argymhelliad hwn yn sicrhau y gall y Cynulliad Cenedlaethol gael y gair olaf ynghylch pa weithdrefn a gaiff ei chymhwyso i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hon yn rhan bwysig o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn, a byddaf yn esbonio ffyrdd eraill o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn drwy wneud newidiadau i'n Rheolau Sefydlog.
Fodd bynnag, ni waeth pa mor gadarn yw dull sifftio, nid yw'n cymryd lle datganiad clir ar wyneb y Bil ynglŷn â pha bryd y mae'n rhaid defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol. Felly, rydym yn credu y dylid ehangu'r amgylchiadau cyfyngedig lle mae'n rhaid i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei chymhwyso o dan y Bil. I bob pwrpas, mae argymhelliad 4 yn dweud y dylai'r Bil ddarparu ar gyfer defnyddio gweithdrefn gadarnhaol mewn perthynas ag unrhyw fesur sy'n ymwneud â llunio polisi, a dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau gan gynnwys y rhai a wneir gan Weinidogion Cymru o dan gymalau 7, 8, 9 ac 17 ac Atodlen 2 sy'n diwygio neu'n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Yn ein barn ni, dylai'r un peth fod yn gymwys ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Ni ddylid defnyddio pwerau Harri VIII a gynhwysir yn y Bil i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a dylai Deddf Llywodraeth Cymru 2006, o ganlyniad i hynny, gael ei chynnwys yn y rhestr o ddeddfiadau yng nghymal 7(7) na ellir eu diwygio gan reoliadau. Rydym hefyd yn credu y dylid diwygio'r Bil fel y nodir yn argymhelliad 7, sef y dylai'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' ar gyfer achosion brys hefyd gael ei chymhwyso ar gyfer rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, pa un a ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain neu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau cyfansawdd, neu'n gweithredu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau ar y cyd, er mwyn sicrhau cysondeb o ran y modd y caiff Gweinidogion pob Llywodraeth eu trin.
Fodd bynnag, rydym yn adleisio'r pryderon a fynegwyd gan Gymdeithas Hansard mewn perthynas â'r weithdrefn graffu a gymhwysir mewn achosion brys penodol. Y pryderon hyn yw nad yw'r Bil yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion y Goron i egluro'r brys; nad oes unrhyw derfynau penodol i'r achosion, a allai fod yn rhai brys neu fel arall; gellir anwybyddu'r dull sifftio yn gyfan gwbl, eto heb i Weinidog y Goron orfod rhoi rhesymau dros anwybyddu'r dull sifftio. Credwn y dylai fod mesurau diogelu wedi'u cynnwys ar wyneb y Bil i fynd i'r afael â phob un o'r pryderon hyn.
O ran argymhellion 3, 5 a 6, mae'r rhain yn ymwneud â materion sy'n berthnasol i'r Rheolau Sefydlog, ac yn ymdrin â materion i'w penderfynu yn nes ymlaen. Fel y soniais yn gynharach, mae angen i'r dull sifftio a nodir yn y Bil fod yn fwy cadarn. Felly, credwn y dylid mabwysiadu meini prawf sifftio i roi eglurder i'r pwyllgor sifftio ynglŷn â pha feini prawf i'w dilyn wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â pha weithdrefn y dylid ei chymhwyso.
Mae ein adroddiad yn manylu ar bum maen prawf sifftio y credwn y dylid eu mabwysiadu, ac maent yn canolbwyntio'n benodol ar yr angen am eglurder a thryloywder mewn unrhyw ddeunydd esboniadol i fynd gyda'r rheoliadau. Credwn y bydd hyn yn helpu'r pwyllgor sifftio i ddod i benderfyniad gwybodus ynghylch pa weithdrefn y dylid ei chymhwyso ar gyfer rheoliadau a wneir o dan y Bil. Bydd diffyg eglurder a thryloywder ynghylch pethau megis pa newidiadau a wneir, pa ymgynghori sy'n digwydd, a beth yw'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn cadw'r pwyllgor yn y tywyllwch ac yn gwneud y dull sifftio'n arafach ac yn llai trylwyr.
Er y byddai'n well gennym pe bai'r meini prawf sifftio wedi eu cynnwys ar wyneb y Bil, nid ydym yn gweld rhinwedd i'r Bil nodi'r meini prawf a fydd yn gymwys i bwyllgor sifftio'r Cynulliad Cenedlaethol heb ei fod ar yr un pryd yn gosod manylion o'r fath mewn perthynas â phwyllgor sifftio San Steffan. Felly, mae argymhelliad 3 yn dweud y dylid pennu meini prawf sifftio yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y meini prawf hynny wedyn yn anfon neges glir am y math o wybodaeth sy'n rhaid ei chynnwys mewn deunydd esboniadol i gyd-fynd â'r rheoliadau a wneir o dan y Bil.
Noda argymhelliad 1 y dylai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol fod yn gyfrifol am wneud yr argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau. Mae argymhelliad 5 yn nodi ein barn ein bod yn ystyried mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw'r pwyllgor mwyaf priodol ar gyfer cyflawni'r dasg honno. Mae gennym brofiad ac arbenigedd mewn perthynas â phwerau gwneud rheoliadau, a'r gweithdrefnau gwahanol a allai fod yn gymwys, drwy ein hystyriaeth o'r Bil a gyflwynwyd ar gyfer craffu yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ogystal, rydym hefyd yn cyflawni gwaith craffu technegol a chraffu ar sail rhagoriaeth ar bob offeryn statudol a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 21. Yn aml, gall hyn gynnwys llunio barn ynglŷn ag a wnaed y defnydd priodol o'r weithdrefn negyddol neu'r weithdrefn gadarnhaol gan Weinidogion Cymru lle mae rhiant-Ddeddf yn caniatáu dewis y weithdrefn sydd i'w gwneud. Yn ein barn ni, dyma fyddai'r dull mwyaf effeithlon a phragmatig ar gyfer ymdrin â'r dasg ddeddfwriaethol enfawr hon sy'n rhaid ei chyflawni mewn amser byr.
Gwnaethom argymhelliad hefyd, argymhelliad 6, ynglŷn â chymhwyso'r dull sifftio i gategorïau o reoliadau a ddisgrifiwyd gennym yn yr adroddiad. Mae un o'r categorïau hyn yn ymwneud â rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU yn gweithredu ar eu pen eu hunain. Gan ddefnyddio'r pwerau eang a roddir iddynt, gallant wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Gallai hyn arwain at reoliadau o'r math y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu gweld o ddydd i ddydd yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig. Nid yn unig hynny, ond gallai Gweinidogion y DU hefyd ddefnyddio'u pwerau eang i ddylanwadu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Gallai camau gweithredol arwain at newidiadau yng nghwmpas cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Ystyriwn fod amhriodoldeb cyfansoddiadol y dull hwn yn glir. Felly, er na fydd rheoliadau o'r fath yn cael eu gosod gerbron y Cynulliad, credwn y dylid rhoi rhyw ran i'r pwyllgor sifftio yn y Cynulliad Cenedlaethol yn y gwaith o graffu ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig a osodwyd gerbron Senedd y DU. Fan lleiaf, dylai'r pwyllgor sifftio gael gwybod am unrhyw reoliadau o'r fath ar yr un pryd ag y bydd pwyllgor sifftio Tŷ'r Cyffredin yn cael gwybod amdanynt. Wedyn gall pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno sylwadau i, neu gynghori pwyllgor Tŷ'r Cyffredin lle bo hynny'n briodol.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi y bydd angen ystyried materion gweithredol eraill, yn enwedig o ran sut y bydd angen i bwyllgor sifftio'r Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phwyllgor sifftio Tŷ'r Cyffredin, lle y gwneir rheoliadau gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu ar yr un pryd.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad cyn i Fil parhad Llywodraeth Cymru ei hun gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Rydym yn cymryd tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y Bil ddydd Llun nesaf. Un o'r materion y byddwn yn ceisio ei archwilio gydag ef yw pa un a yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cael mynediad at bwerau gwneud rheoliadau a fydd ar gael i Weinidogion Cymru yn y ddau Fil a rhinweddau gweithredu yn y fath fodd. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, am amlinellu pethau mor glir? A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau y ceir adegau pan fo'r hyn sydd yn ôl pob golwg yn aneglur yn hanfodol bwysig mewn gwirionedd, ac mae hwn yn un ohonynt? Hoffwn danlinellu un neu ddau o'r pethau y mae Mick wedi eu dweud oherwydd, yn amlwg, nid oes angen ychwanegu at y disgrifiad o'r sefyllfa rydym ynddi yn awr.
Mae'r Bil ymadael â'r UE yn Fil rhyfeddol, ac yn amlwg, mae'n newid yn llwyr ein perthynas ag Ewrop, ond hefyd y setliad datganoli. Mae sut rydym yn rheoli hynny i gyd yn hanfodol bwysig, ac mae'n bwysig iawn fod gennym ddull sifftio. Mae'n amlwg mai dyna yw'r argymhelliad canolog yma, a bydd yn adlewyrchu'r arfer tebygol bellach yn San Steffan i lywodraethu'r gwaith, felly, o weinyddu pwerau gweinidogol yno. Ond mae angen inni wneud yr un peth gyda materion datganoledig. Fel y mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn sylweddoli, rwy'n credu ei bod hi'n debygol y bydd yn rhaid i'r pwyllgor wneud y gwaith hwnnw. Felly, rydym yn gwneud yr argymhelliad hwn i chi, ond rydym hefyd yn dweud ein bod yn barod i wneud y gwaith.
Mae'n bwysig iawn fod penderfyniad y pwyllgor sifftio yn rhwymol. Gan amlaf, mae'r argymhellion y mae Gweinidogion yn eu gwneud yn mynd i gael eu derbyn. Rydym yn sôn am nifer helaeth o eitemau a allai ddod drwodd ar bwerau is-ddeddfwriaethol—mae 500 neu 600, rwy'n meddwl, wedi cael eu crybwyll. Felly, mae nifer yr offerynnau statudol yn mynd i fod yn fawr iawn.
Felly, gan dderbyn y pwerau rheoleiddio eang sy'n rhaid i Weinidogion eu cael, y ffordd briodol o wirio cydbwysedd yma yw dull sifftio. Os nad oes gennym ddull sifftio, ceir perygl gwirioneddol, drwy ba amryfusedd bynnag, o symud pŵer sylweddol o'r ddeddfwrfa i Weinidogion. Rwy'n siŵr nad yw Llywodraeth Cymru eisiau hynny. Felly, mae'r awgrym hwn yn ffordd ymarferol iawn ymlaen.
Ar rai pwyntiau, credaf y dylai unrhyw ddefnydd o bwerau Harri VIII ei gwneud yn ofynnol, o leiaf, i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio. Mae honno'n egwyddor bwysig iawn, ond yn gyffredinol, mae'n anodd gweld sut y gall ein dyletswydd i graffu weithio'n effeithiol mewn gwirionedd oni fydd gennym y ffordd hon o wirio'r cydbwysedd ar ffurf dull sifftio. Diolch.
Gwelaf frwdfrydedd y Siambr ynghylch y ddadl hon, ond mewn gwirionedd—fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi nodi—mae'n bwysig iawn yn y bôn. Rydym yn trafod Bil ymadael â'r UE—y rhan fwyaf o'r Bil ymadael â'r UE. Gwn ein bod wedi bod yn trafod, yn ystod yr wythnosau diwethaf, y rhannau sy'n ymwneud â'r meysydd datganoledig a phethau, ond dyma gorff y Bil ymadael â'r UE ei hun. Rydym wedi trafod cipio pŵer, rydym wedi trafod cynigion cymhwysedd deddfwriaethol ac yn amlwg, y Bil parhad, sydd wedi ymddangos ers llunio'r adroddiad rhagorol hwn. A gaf fi gymeradwyo arweinyddiaeth y Cadeirydd a gwaith caled ein clercod, ein hymchwilwyr a'n cynorthwywyr cyfreithiol hefyd, sydd wedi bod yn aruthrol dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yn sicr pan ydym wedi bod yn cynhyrchu adroddiad ar ôl adroddiad?
Fe gofiwch yr wythnos diwethaf ein bod wedi cael dadl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar gysylltiadau rhynglywodraethol, a oedd yn seiliedig ar yr angen i'r holl ddeddfwyr yn yr ynysoedd hyn ystyried ei gilydd gyda pharch cyfartal ac yn gydradd. Yr hyn sydd gennym ger ein bron heddiw yw'r ymgais ddiweddaraf gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn i wneud yn siŵr fod ein llais yn cael ei glywed yr un mor glir â phwyllgorau eraill tebyg mewn deddfwrfeydd eraill. Rydym yn gweithio gyda phwyllgorau eraill tebyg yn Nhŷ'r Arglwyddi yn San Steffan a'r pwyllgor cyfatebol yn yr Alban, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â chydraddoldeb deddfwrfeydd a pharch cyffredin, a mwy na chael ychydig o bwerau, mae rhywun arall yn penderfynu beth a gawn, a rhaid inni fwrw ymlaen â gwneud hynny. Dyma ymdrech ystyrlon i wneud rhywbeth am y peth a cheisio dylanwadu ar y ffordd y mae pethau'n digwydd. Oherwydd mae cipio pŵer yn bosibl, fel roedd David Melding yn amlinellu, a chipio pŵer yn yr ystyr nad yw dau Weinidog o'r ddeddfwrfa hon yn awr yn colli pwerau o'r lle hwn, er bod hynny yn y cefndir, yn amlwg, ac yn dal i fod yn fygythiad sylfaenol, sef y rheswm pam y mae gennym yr holl fecanweithiau eraill hyn yn digwydd. Hoffwn ailadrodd yr hyn a benderfynwyd gennym yr wythnos diwethaf: cefnogi cydgyngor Gweinidogion diwygiedig a hefyd cynhadledd y Llefaryddion mewn perthynas â'r ffordd ymlaen. Gallaf weld y Cwnsler Cyffredinol yn nodio'n frwd, ac rwy'n croesawu hynny.
Nawr, o ran y dull sifftio, sef y cyfraniad canolog yma, rhaid inni gael ffordd o ymdrin ag oddeutu 600 a mwy o ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n dod y ffordd hon, ac mewn gwirionedd, rhaid inni gael rhywfaint o reolaeth dros hynny a'r rheolaeth honno yw'r dull sifftio, sydd yn yr argymhellion hynny rwy'n eu hargymell yn galonnog i bawb yn dilyn arweiniad ein Cadeirydd. Ond hefyd, nid mater o amenio penderfyniadau yn unig fydd hyn. Mae pwyllgor yma—ac rydym yn awgrymu yn argymhelliad 5 mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fydd hwnnw—yn gwneud y sifftio, sydd hefyd yn broses weithredol, i wneud yn siŵr, fel yr amlinellodd David Melding, na fydd pwerau gwneud rheoliadau yn cael eu defnyddio i newid y cydbwysedd grym yn ormodol tuag at lywodraethau ac oddi wrth ddeddfwrfeydd, fel rydym ni ac yntau wedi amlinellu. Oherwydd mae perygl, wrth geisio bod yn gyflym am fod gennych gymaint i ymdrin ag ef, ein bod yn rhoi'r cyfan i'r Gweinidogion perthnasol heb unrhyw ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Nid yw hynny'n iawn. Dyna pam y mae angen pwyllgor sifftio.
Mae'r un peth ynghylch pwerau gwneud rheoliadau—yr hen bwerau Harri VIII rydym yn eu trafod y rhan fwyaf o wythnosau yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rhaid i mi ddweud wrth David Melding, rwy'n credu bod cyfnod Harri VIII yn oes aur iddo; un arall yw'r 1920au. Mae'r 1540au yn un arall. Ond mae perygl sylfaenol iawn gyda phwerau Harri VIII, oherwydd yn y bôn mae angen inni allu craffu ar berfformiad y rheini yn ogystal, yn hytrach na bod gennym Weinidogion y Goron yn unig yn gorfodi eu barn ar y ddeddfwrfa hon heb i ni fel deddfwrfa allu gwneud unrhyw beth am y peth. Felly, rhaid i unrhyw bwerau Harri VIII a orfodir gael eu diffinio'n glir a bod yn ddarostyngedig o leiaf i'r weithdrefn gadarnhaol fel yr amlinellwyd yma. Dyna farn hirsefydlog y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaeth gyda llaw; nid rhywbeth sy'n berthnasol i'r sefyllfa benodol hon yn unig ydyw.
Felly, mae'n adroddiad eang. Mae'n ffordd gydlynol o ymdrin â llawer iawn o'r ddeddfwriaeth sy'n mynd i ddod y ffordd hon. Dyma ffordd gydlynol o ymdrin â hi, ac rwy'n argymell yr adroddiad yn frwd, ac rwyf hefyd yn llwyr ddisgwyl, ac yn gobeithio y gwelir gwireddu cefnogaeth unfrydol y Siambr hon. Diolch yn fawr.
A gaf fi yn gyntaf ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am gyflwyniad manwl iawn o'r adroddiad a'r dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni gefnogi hynny. Rydym yn sôn am Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn amlwg—rhywbeth na fydd yn digwydd o bosibl, yn dibynnu ar beth sy'n digwydd yn yr wythnosau sy'n dod. Ond mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, oherwydd pa Fil bynnag a fydd gennym yn y pen draw, mae angen inni sicrhau bod gennym broses graffu briodol ar gyfer y Bil penodol hwnnw.
Edrychodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Bil ymadael â'r UE yn fanwl iawn hefyd, a chawsom sesiynau ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn. Ond rydym wedi cyflwyno gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE i Aelodau Seneddol a chawsant eu derbyn i gyd a'u symud ymlaen gan Aelodau Seneddol yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn anffodus, ni chafodd yr un ohonynt eu derbyn gan y Llywodraeth. Ond nodwyd chwe amcan gennym ar y cam hwnnw, ac un ohonynt oedd sicrhau bod pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru o dan y Bil wedi'u cyfyngu'n llym, ac wedi'u llunio'n llawer tynnach na'r rhai a nodir ar hyn o bryd yn y Bil. Oherwydd rydym yn cydnabod yr angen pwysig i Weinidogion fod yn atebol i'r ddeddfwrfa hon a pheidio â chael y pwerau eang a phellgyrhaeddol roedd y Bil yn ei argymell. Fel y crybwyllwyd, mae pwerau Harri VIII yn eang iawn ac yn weithdrefnau negyddol yn aml iawn. Nid oeddem yn cytuno â hynny. Bu'n rhaid inni sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn atebol i'r sefydliad hwn, a'n bod yn gallu cyfyngu ar eu pwerau yn yr ystyr honno. Buaswn yn cydnabod bod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yr un farn a phryderon ynglŷn â hynny ag a fynegwyd gan lawer, gyda llaw, mewn pwyllgorau eraill ar draws Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Felly, nid yw hynny'n newydd, ond fe ganolbwyntiom ar hynny.
Nodwyd gennym hefyd mai amcan 6 oedd sicrhau y gall y Cynulliad bennu ei threfniadau craffu ei hun, a chredaf fod hynny'n hanfodol iawn. Cydnabyddir gan y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mai mater i'r Cynulliad yn unig, fel y sefydliad sy'n atebol yn ddemocrataidd ar gyfer Cymru, yw pennu ei weithdrefnau ei hun. Mae honno'n ffaith bwysig y dylem ei chofio. Byddai'r Bil fel y'i drafftiwyd, mewn gwirionedd, yn tanseilio'r agwedd gyfansoddiadol honno drwy geisio pennu, ar ein rhan ni fel y Cynulliad, y gweithdrefnau a fydd yn gymwys i graffu ar is-ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn y dull sifftio a roddir ar waith—nid yw'n mynd â hynny oddi wrthym—yn y Bil; mae hwnnw'n dal i fod yno. Felly, mae angen inni ymdrin â hynny ac rydym wedi tynnu sylw at hyn. Mae'r Bil ymadael yn ceisio gosod gweithdrefn arnom, fel Cynulliad, heb unrhyw ymgynghori. A heb gydnabod ein barn a fynegwyd yn ein hadroddiad ar y Papur Gwyn, roedd y Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen â hynny.
Dywedodd yr Athro John Bell, mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, fod
Y darpariaethau ar gyfer Craffu yn annigonol... Nid yw'r Bil yn cydnabod maint y dasg, ac felly yr angen i gael gweithdrefnau wedi'u cynllunio'n wahanol er mwyn sicrhau bod gwaith craffu digonol yn digwydd... Mae'r Bil yn rhagdybio y bydd gweithdrefnau presennol yn cael eu defnyddio, ond nid yw hynny'n bosibl. Mae angen rhoi sylw difrifol iawn i sut y bydd craffu'n gweithredu.
Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i edrych ar yr agweddau hynny ar graffu, oherwydd roeddem yn pryderu'n fawr ynglŷn â sut y byddem ni fel sefydliad yn gallu craffu ar is-ddeddfwriaeth a oedd yn mynd drwy'r Senedd yn arbennig, gan effeithio ar gymhwysedd datganoledig, ond ni fyddai gennym unrhyw allu i gyflwyno sylwadau yn ei chylch.
Rhoddodd y Sefydliad Materion Cymreig dystiolaeth ysgrifenedig i ni:
Rhoddir pwerau cyfatebol i sefydliadau datganoledig gan gymal 10 ac atodlen 2, sy'n golygu y gallai Gweinidogion Llywodraeth Cymru hefyd gymryd pwerau Harri VIII o dan y Bil hwn pe baent yn dymuno. Wrth gwrs, byddai'n anfoddhaol i weld y pŵer hwn yn cael ei efelychu yng Nghymru, heb weithredu i ailgydbwyso'r systemau craffu sydd ar gael... Ni ddylai diffygion mewn craffu seneddol gael eu hefelychu yng Nghaerdydd.
Felly, mae angen diwygio'r Bil hwn. Mae angen cefnogi'r adroddiad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y neges yn gwbl glir y dylai sefydliadau datganoledig gael yr hawl i bennu eu gweithdrefnau craffu eu hunain a dylem hefyd ddilyn esiampl y dull sifftio, a galluogi pwyllgor i ymgymryd â'r dasg pan geir gweithdrefn negyddol, er mwyn asesu'r eitem honno o is-ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gofyn i'r Aelodau roi eu cefnogaeth lawn i'r cynnig.
Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad dros Bontypridd, am ei waith ar yr adroddiad hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor am eu hymdrechion yn hyn o beth ac yn olaf, i fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, y gwn eu bod wedi rhoi llawer o amser, ymdrech a meddwl tuag at yr adroddiad hwn.
Mae fy nghyfraniad heddiw yn mynd i fod yn gymharol fyr, gan fod yn rhaid i mi gytuno â llawer o'r hyn y mae fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor eisoes wedi ei gyfrannu i'r adroddiad hwn ac at y ddadl. Y rhan o'r adroddiad yr hoffwn dynnu sylw ati, oherwydd fy mod yn teimlo ei bod o bwys mawr, yw'r dull sifftio ar gyfer Tŷ'r Cyffredin sydd bellach wedi'i gynnwys yn y Bil hwn. Mae'n gam cadarnhaol tuag at wella lefel y craffu sydd ynghlwm wrth is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil.
Rwy'n gobeithio y byddai pob Aelod yn cytuno, o'r dystiolaeth a gasglwyd yn yr adroddiad hwn, ei bod hi'n amlwg y dylai'r un dull sifftio gael ei gymhwyso yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r adroddiad hwn yn argymell mai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a ddylai fod yn bwyllgor sifftio ar gyfer y Cynulliad. Mae'n rhywbeth rydym ni, fel pwyllgor, wedi'i drafod yn fanwl iawn ac rydym yn ystyried mai dyma fyddai'r dull mwyaf ymarferol o ymdrin â'r holl is-ddeddfwriaeth y mae disgwyl iddi ddod gerbron y sefydliad hwn. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ, Julie James?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau hefyd drwy ddiolch i'r pwyllgor am archwilio'r gwaith o graffu ar reoliadau a wneir o dan y pwerau a gynhwysir ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle eto i ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad, a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl yn unig. Fodd bynnag, deallwn yn llwyr pam y mae'r pwyllgor wedi bod mor awyddus i gael dadl ar yr adroddiad a'i argymhellion yn y Senedd, gan fod y Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn parhau i wneud ei ffordd drwy Dŷ'r Arglwyddi. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond gydag un amod, a dof at hwnnw maes o law.
Rydym wedi bod yn glir yn gyson ynglŷn â'n pryderon ynghylch ehangder a chwmpas y pwerau dirprwyedig a gynhwysir ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Roedd y diwygiadau arfaethedig a gyhoeddwyd gennym ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn cynnwys darpariaethau a fyddai'n dileu'r cyfyngiadau amrywiol a osodwyd ar bwerau gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru yn y Bil hwnnw. Byddai ein gwelliannau wedi gwneud pwerau Gweinidogion Cymru yn gyfartal â phwerau Gweinidogion y DU, fel y nododd nifer fawr o bobl yn ystod y ddadl yn gynharach. Hefyd roeddem yn glir y byddem yn cefnogi argymhellion i gyfyngu ar eu cwmpas a gwella'r gofynion craffu sydd ynghlwm wrthynt, felly rydym yn cytuno'n llwyr â phob un o'r sylwadau a wnaed ynghylch trosglwyddo pwerau, a gwnaed y pwynt hwnnw'n dda gan bawb sydd wedi cyfrannu heddiw.
Felly, rydym yn croesawu'r gwelliannau i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sy'n darparu ar gyfer pwyllgor sifftio, ac rydym yn cytuno ag argymhelliad cyntaf y pwyllgor y dylai'r dull sifftio gwmpasu'r holl reoliadau a wneir o dan y Bil ac iddynt gael eu gosod gerbron y Cynulliad.
Rydym yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt ar ail argymhelliad y pwyllgor, sy'n datgan y dylai pob un o argymhellion y pwyllgor sifftio fod yn rhwymol. Gwrandewais yn ofalus ar y dadleuon ac nid ydym eto wedi ymateb yn ffurfiol, felly nid wyf yn dweud nad ydym yn dweud hynny, ond ar hyn o bryd rydym yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt tra'n bod yn ystyried yn drylwyr beth fyddai holl ganlyniadau hynny. Oherwydd yn y mwyafrif llethol o achosion credwn y bydd Gweinidogion Cymru yn derbyn argymhelliad y pwyllgor sifftio y dylai set o reoliadau fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn hytrach na'r weithdrefn negyddol, er enghraifft—beth bynnag y bo canlyniad y broses sifftio honno. Fodd bynnag, credwn y gallai fod sefyllfaoedd lle y bydd angen i Weinidogion Cymru, am resymau'n ymwneud â brys, er enghraifft, weithredu'n gyflymach nag y mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu ar eu cyfer, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth yn cadw'r hyblygrwydd i wneud hynny, er gwaethaf argymhellion y pwyllgor sifftio. Credaf hefyd fod yna achos dros gynnal trefniadau cyson rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU, yn enwedig ar gyfer offerynnau cyfansawdd ac ar y cyd lle byddai pwyllgorau sifftio'r Cynulliad a'r Senedd yn gwneud argymhellion ynghylch y gweithdrefnau priodol. Mewn rhai amgylchiadau mae'n bosibl y gallai Gweinidogion y DU, am resymau dilys, ddiystyru argymhelliad eu pwyllgor sifftio, ond efallai na fydd modd i Weinidogion Cymru wneud hynny pe baem yn derbyn yr argymhelliad hwnnw. Rydym am feddwl amdano. Rydym am ystyried hynny ymhellach wrth inni ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad.
Hoffwn ailadrodd ein bod yn croesawu craffu. Mae Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cynnwys gweithdrefnau mwy trylwyr ar gyfer craffu ar y pwerau dirprwyedig nag y mae'r Bil ymadael â'r UE yn ei wneud. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i roi'r adnoddau cywir i'r Cynulliad allu craffu ar sut y mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio eu pwerau dirprwyedig. Ond rhaid inni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng rôl graffu'r Cynulliad a'r angen i'r Weithrediaeth allu ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i'r hyn sy'n debygol o fod yn dirwedd ddeddfwriaethol sy'n symud yn gyflym ac sy'n newid yn gyflym wrth inni nesáu at Brexit. Ni fydd gwneud argymhellion y dull sifftio yn rhwymol yn sicrhau'r cydbwysedd hwn, yn ein barn ni. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Dull o wirio cydbwysedd ydyw, a chi fydd yn gwneud yr holl argymhellion cychwynnol, a fydd yn cael eu sifftio wedyn. Hefyd, bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud ymhell cyn y diwrnod gadael, felly nid wyf yn hollol siŵr fod yna lefel o frys, yn sicr o'r maint rydych yn ei rhagweld, ac nid wyf yn meddwl mai dull y pwyllgor sifftio o weithredu fydd gwneud llawer o alwadau. Ymwneud yn unig y bydd â ble rydym yn credu o ddifrif y dylai rhywbeth fynd o'r negyddol i'r cadarnhaol mewn gwirionedd.
Ie, rwy'n derbyn hynny, ond rwy'n credu ein bod am feddwl ychydig mwy am hynny wrth inni symud ymlaen. Felly, fel y dywedaf, rydym yn dilyn cyngor yn ei gylch yn hytrach na'i wrthod yn llwyr ar hyn o bryd, a dyna pam rydym yn cefnogi'r adroddiad yn gyffredinol.
Felly, mewn perthynas ag argymhellion 4 a 7 y pwyllgor, rydym yn cytuno â'r diwygiadau a nodwyd ym mharagraffau 44 i 46 o adroddiad y pwyllgor, ac rydym yn cytuno y dylai'r weithdrefn gadarnhaol dros dro fod ar gael ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Gan droi'n fyr at yr argymhellion sy'n weddill, rydym yn cytuno y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol weithredu fel y pwyllgor sifftio, ond credwn efallai y bydd angen i'r Cynulliad ystyried a ddylid newid trefniadau presennol y pwyllgor i'w alluogi i ymdrin â lefel y gwaith.
Gan droi at argymhelliad 3, bydd angen i'r pwyllgor sifftio gytuno ar y meini prawf ar gyfer cyflawni'r broses sifftio. Bydd hi'n bwysig i'r meini prawf hyn, ac unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog, fod yn gyson â'r fframwaith terfynol ar gyfer y dull sifftio a nodir yn y Bil. I fod yn deg, gwnaeth Cadeirydd y pwyllgor y pwynt hwnnw'n rymus iawn, yn fy marn i. Nid ydym eto wedi ein darbwyllo y dylid cynnwys y meini prawf yn y Rheolau Sefydlog. Credwn y dylem ddychwelyd at y mater hwn pan gytunir ar y dull sifftio terfynol. Felly, unwaith eto, mae hwn yn un o'r darnau cymhleth o waith lle rydym yn ceisio gwneud i sawl darn o ddeddfwriaeth a'n Rheolau Sefydlog a'r holl weithdrefnau gyd-fynd â'i gilydd.
Yn olaf, rydym yn tueddu i gytuno ag argymhelliad 6, sy'n nodi'r categorïau o reoliadau y dylai'r dull sifftio gael ei gymhwyso iddynt. Fodd bynnag rydym yn nodi'r heriau logistaidd posibl mewn perthynas â rheoliadau cyfansawdd ac ar y cyd, lle bydd pwyllgorau sifftio'r Cynulliad a Senedd y DU yn rhan o'r broses.
Felly, yn gyffredinol, rydym yn croesawu'r adroddiad yn fawr, rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaeth y pwyllgor, a byddwn yn cefnogi'r cynnig yn gyffredinol. Ond fel y dywedais yn gynharach yn fy ymateb, byddwn yn ymatal rhag rhoi ein safbwynt ar argymhelliad 2. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Mick Antoniw i ymateb i'r ddadl?
Yn gyntaf, diolch i bawb ohonoch sydd wedi cyfrannu ac wedi treulio amser yn mynd drwy fanylion yr adroddiad hwn. Unwaith eto, rwy'n croesawu fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, sydd wedi gweithio'n galed iawn mewn cyfnod byr iawn o amser, a hefyd i'r staff a wnaeth hynny hefyd. Ac mae'n deg dweud mai dyma un o'r adroddiadau mwyaf diflas ac anniddorol a ddaw gerbron y Siambr hon byth, mae'n debyg. [Chwerthin.] Ond mae hefyd yn un o'r adroddiadau mwyaf hanfodol bwysig sy'n ymdrin â holl fater cydbwysedd pwerau a rheol y gyfraith sy'n deillio o'r Siambr hon. A dyma ni, 500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn dal i feio Harri VIII am lawer iawn o bethau.
A gaf fi ddiolch i Dai Rees, hefyd, am ei sylwadau a hefyd am y cydweithrediad a gawsom mewn nifer o feysydd, wrth edrych ar y meysydd cyffredin hyn? Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn amhrisiadwy mewn gwirionedd.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Llywodraeth, ond rwy'n gwneud y pwynt penodol hwn, mai un o'r rhesymau pam fod y cynnig yn y fformat hwn, o ran ei gymeradwyo, yw oherwydd y gwahoddiad penodol gan Lywodraeth y DU i fynd ati i ystyried nifer o'r pwyntiau o welliannau hyn mewn perthynas â chraffu. Felly, roedd yna gyfle penodol roedd yn rhaid ymateb iddo, ond hefyd ni fyddai'n briodol i ni fel pwyllgor wneud argymhellion o'r math hwnnw heb gymeradwyaeth y Siambr hon o leiaf. Ac wrth gwrs, yn y materion hyn i gyd, yr egwyddor yn y pen draw yw hyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y sylwadau a wnaed gan y Llywodraeth a'r ffaith y byddant yn ystyried y materion pwysig hyn, oherwydd mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth y gellir ei weithredu. Ond o ran arfer grym llywodraethol a chraffu ar hynny, mater i'r Siambr hon, nid i'r Llywodraeth yw craffu yn y pen draw. Nid mater i'r Llywodraeth yw gosod y rheolau ar gyfer craffu ar ei waith ei hun. Yn y pen draw, mae rheol y gyfraith yn mynnu bod craffu'n digwydd gan y Cynulliad hwn, a dyna pam y credaf fod yr adroddiad hwn yn drylwyr, ond rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol a gafwyd a chan yr Aelodau. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.