Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 7 Mawrth 2018.
Dull o wirio cydbwysedd ydyw, a chi fydd yn gwneud yr holl argymhellion cychwynnol, a fydd yn cael eu sifftio wedyn. Hefyd, bydd yr holl waith hwn yn cael ei wneud ymhell cyn y diwrnod gadael, felly nid wyf yn hollol siŵr fod yna lefel o frys, yn sicr o'r maint rydych yn ei rhagweld, ac nid wyf yn meddwl mai dull y pwyllgor sifftio o weithredu fydd gwneud llawer o alwadau. Ymwneud yn unig y bydd â ble rydym yn credu o ddifrif y dylai rhywbeth fynd o'r negyddol i'r cadarnhaol mewn gwirionedd.