Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 14 Mawrth 2018.
Rhaid eich bod wedi disgwyl y buaswn yn sefyll ar y pwynt hwnnw. Rwy'n deall yr hyn a ddywedwch am ddymuno diwygio fformiwla Barnett yn hirdymor, ac rwy'n credu y caech gefnogaeth y rhan fwyaf o'r Aelodau i hynny, ond rhaid i chi dderbyn, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, ein bod o leiaf wedi cael y fframwaith cyllidol, sy'n gychwyn ar y broses honno, ac yn rhywbeth nad oedd gennym mohono ychydig flynyddoedd yn ôl.