Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 14 Mawrth 2018.
Ond nid yw Pen-y-bont ar Ogwr ar ei phen ei hun, wrth gwrs. Yn Nhorfaen, aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith dros hanner y plant yn 18 mis oed, ond yn dilyn yr ymyrraeth, sgriniwyd y plant eto'n dair blwydd oed, ac aseswyd bod gan 85 y cant o'r plant a sgriniwyd sgiliau iaith priodol ar gyfer eu hoedran, gyda dim ond 8 y cant wedi'u cofnodi fel rhai ag oedi sylweddol o ran eu sgiliau iaith.
Mae'r rhain yn nodi llwyddiant gwirioneddol a byddwn yn elwa o'r ymyriadau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Yn anffodus, fodd bynnag, mae gwasanaethau therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg yn wynebu toriadau, ac mae therapyddion yn poeni mwyfwy am ddyfodol gwasanaethau cymorth pwysig o'r fath ar gyfer ymarferwyr gofal plant a rhieni. Mae'n hanfodol fod gwasanaethau o'r fath yn cael eu cadw. Mewn gwirionedd, o ystyried ffocws daearyddol cyfyngedig Dechrau'n Deg, ac o gofio bod y rhan fwyaf o'r plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwirionedd yn byw y tu allan i'r ardaloedd hyn, oni ddylai fod yn nod i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r gwasanaeth hwn i bob rhan o Gymru.
Felly, pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo o leiaf i barhau i sicrhau cyllid ar gyfer y gwasanaethau gwerthfawr hyn sydd eisoes yn bodoli, ac o ystyried pwysigrwydd sgiliau iaith cynnar, efallai hefyd i wneud sylwadau ar ei chynlluniau o ran sut y gall plant ifanc eraill sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gael y cymorth o ansawdd sydd ei angen arnynt ar gyfer datblygiad iaith a lleferydd cynnar da.
Yn ogystal â sicrhau bod lleferydd, iaith a chyfathrebu yn parhau i gael eu blaenoriaethu gan Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol, mae angen sicrhau y manteisir ar bob cyfle i wneud yn siŵr fod rhieni, gofalwyr a'r gweithlu ehangach yn deall pwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu, a bod negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol yn y maes hwn yn cael eu rhannu'n effeithiol yn ogystal.
Y dylanwad cryfaf ar sgiliau iaith cynnar plant ifanc yw eu rhieni a'u gofalwyr. Gall tlodi gyfyngu'n helaeth ar allu rhieni i ymateb i anghenion iaith cynnar eu plentyn ac i gynnig amgylchedd dysgu yn y cartref sy'n gwella sgiliau iaith yn y blynyddoedd cynnar. Felly, mae cynorthwyo rhieni i feithrin amgylchedd cartref gyda chyfathrebu ac iaith gyfoethog yn sylfaenol bwysig i wella datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar plant.
Rhoddwyd camau cadarnhaol ar waith eisoes yng Nghymru, fel y soniais, er enghraifft hefyd, mae gan y rhaglen Plant Iach Cymru a lansiwyd yn ddiweddar ffocws penodol ar ddatblygiad iaith a lleferydd yn adolygiad iechyd teulu yr ymwelydd iechyd yn 15 mis. Mae'r ymgyrch ddiweddar, Mae 'na Amser i Siarad, Chwarae a Gwrando, sy'n hybu llafaredd, i'w chroesawu hefyd, fel y mae'r cyllid a'r cymorth ychwanegol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf drwy'r consortia rhanbarthol i helpu i wella sgiliau iaith dysgwyr. Fodd bynnag, mae ffocws yr ymgyrch Mae 'na Amser yn canolbwyntio'n bennaf ar blant hŷn, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod yn rhaid inni sicrhau ffocws diwyro ar hyrwyddo'r negeseuon allweddol hyn ar draws y portffolios ar y cam cynharaf posibl i gael yr effaith fwyaf.
Y tu hwnt i amgylchedd y cartref, ceir tystiolaeth gref o fanteision gofal plant ac addysg gynnar o ansawdd da o safbwynt datblygu geirfa a llythrennedd. Mae gan ymarferwyr blynyddoedd cynnar rôl hollbwysig yn cefnogi datblygiad plant; maent yn rhannu'r dysgu cynnar a'r sgiliau sy'n darparu sylfaen ar gyfer parodrwydd ysgol, ac yn cefnogi cynnydd da yn y dyfodol drwy addysg ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn hollbwysig hefyd i gau'r bwlch iaith rhwng plant o deuluoedd incwm isel a theuluoedd incwm uchel, sy'n dechrau yn eu babandod, gan hyrwyddo symudedd cymdeithasol, wrth gwrs, a chynnig y dechrau gorau i blant mewn bywyd.
Mae'n dda bod y cynllun gweithlu gofal plant a chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn cydnabod pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar o fewn y cymwysterau gofal plant newydd, a manylion cyfleoedd i ymarferwyr arbenigo yn y maes hwn. Mae'n gadarnhaol hefyd fod therapyddion iaith a lleferydd, fel yr arbenigwyr yn y maes hwn, wedi cymryd rhan yn y datblygiadau hyn. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd datblygiad iaith cynnar, dylem sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus a llywodraethu priodol yn digwydd ochr yn ochr â hyfforddiant. Mae dull gweithredu Dechrau'n Deg, lle mae cylchoedd meithrin yn gallu cael cymorth therapi lleferydd ac iaith, yn fodel defnyddiol iawn yn hyn o beth.
Wrth edrych y tu hwnt i hyfforddiant, mae angen i ddatblygiad iaith cynnar gael ei brif ffrydio, a'i ystyried yn rhan o gyfundrefnau arolygu, er enghraifft, ac mae angen i fframweithiau canlyniadau gael eu haddasu i adlewyrchu cynnydd o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu. Yng Ngogledd Iwerddon, crëwyd swydd strategol i sicrhau ymagwedd drawsbynciol tuag at ddatblygiad iaith cynnar ar draws portffolios. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar sut y mae datblygiad iaith cynnar yn cael ei flaenoriaethu ar draws portffolios Llywodraeth Cymru yn ei hymateb. Pa arweiniad a geir i sicrhau'r ffocws angenrheidiol ac arbenigedd yn y maes allweddol hwn yma yng Nghymru? Hefyd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i edrych ar ddysgu o'r dull strategol a welwn yng Ngogledd Iwerddon?
Felly, i grynhoi, cafwyd llawer o ddatblygiadau cadarnhaol o ran cefnogi datblygiad iaith cynnar yng Nghymru. Fodd bynnag, fel rydym wedi amlinellu, mae canlyniadau difrifol peidio â chefnogi sgiliau iaith cynnar plant a methiant i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu hirdymor a pharhaus yn galw am ymateb trawslywodraethol ehangach a mwy o arweinyddiaeth strategol ledled Cymru. Mae'n hanfodol ein bod, fel cenedl, yn gwneud mwy i sicrhau bod plant yn datblygu sgiliau iaith cryf erbyn eu bod yn dechrau yn yr ysgol ac yn sicrhau bod digon o ffocws ar y maes hwn. Bydd methiant i wneud hynny'n golygu mwy o'r un heriau economaidd, heriau iechyd a heriau cymdeithasol mewn blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, byddai llwyddiant yn trawsnewid rhagolygon degau o filoedd o blant Cymru a chyda hwy, wrth gwrs, y rhagolygon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'n gwlad. Diolch.