Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 14 Mawrth 2018.
Fel y soniais yn gynharach, ceir tystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith gynnar, gyda phlant o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith gwannach na phlant mewn grwpiau mwy breintiedig. Ac mae hynny'n golygu bod sgiliau iaith yn ffactor hollbwysig yn y cylchredau sy'n pontio'r cenedlaethau a all barhau tlodi mewn gwirionedd, gan fod sgiliau cyfathrebu gwael yn cael eu trosglwyddo o riant i blentyn. Yn wir, mae'r ystadegau yn eithaf brawychus ac mewn gwirionedd, maent yn siarad drostynt eu hunain.
Mae'n bosibl fod dros hanner y plant mewn ardaloedd sy'n gymdeithasol ddifreintiedig yn dechrau'r ysgol gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael, ac erbyn y byddant yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth yn llusgo bron flwyddyn a hanner ar ôl plentyn yn y grŵp incwm uchaf o ran datblygiad iaith. Nawr, gadewch i ni feddwl am hynny: eisoes, erbyn eu bod yn dair oed, mae plant o 20 y cant tlotaf y boblogaeth flwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Nawr, mae 80 y cant o athrawon wedi nodi eu bod yn aml yn gweld plant yn dod i'w hysgolion yn cael trafferth siarad mewn brawddegau llawn, ac nid oes amheuaeth gennyf fod pob un ohonom yma yn y Cynulliad yn unedig yn ein huchelgais i dynnu plant allan o dlodi a rhoi mwy o gyfleoedd bywyd iddynt, ond hyd yma nid yw'r Llywodraeth na'r Cynulliad hwn wedi canfod ffordd o wireddu'r uchelgais hwnnw'n briodol. Ac eto fe wyddom, wrth gwrs, y canfuwyd mai geirfa yn bump oed yw'r rhagfynegydd gorau o'r modd y gallodd plant sy'n wynebu amddifadedd cymdeithasol yn ystod plentyndod fynd yn groes i'r duedd a dianc rhag tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd fel oedolion.
O gymharu â phlant a oedd â datblygiad iaith normal yn bump oed, mae plant pum mlwydd oed sydd â sgiliau dieiriau normal ond geirfa wael un a hanner gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr gwael neu o gael problemau iechyd meddwl a mwy na dwywaith mor debygol o fod yn yn ddi-waith erbyn iddynt gyrraedd 34 oed. Felly, mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu gwael plant yn effeithio'n ddifrifol ar ystod eang o ganlyniadau, gan gynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd.
Mae gan chwech o bob 10 o bobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid anawsterau cyfathrebu, ac mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu gan 88 y cant o ddynion ifanc sy'n ddi-waith yn hirdymor. Rydym hefyd yn gwybod, heb gymorth effeithiol, y bydd angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl ar draean o blant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu pan fyddant yn oedolion. Nawr, mae hynny'n syfrdanol. Mae pob un o'r ystadegau hynny'n dweud yr un stori wrthym. Drwy wella sgiliau llafar plant yn bum mlwydd oed, gallem fod yn gwella eu profiadau bywyd a'u cyfleoedd mewn bywyd yn fawr ac yn nes ymlaen, wrth gwrs, gallem fod yn rhyddhau ein hadnoddau cyfyngedig i fynd i'r afael â phroblemau eraill yn ein cymdeithas.
Mae anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn arbennig o gyffredin yn ein plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed, wrth gwrs. Mae gan lawer o blant sy'n derbyn gofal anghenion cyfathrebu heb eu nodi neu heb eu diwallu. Yn wir, canfu dadansoddiad diweddar fod gan 81 y cant o blant sydd â phroblemau ymddygiad anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu heb eu canfod, gydag ond ychydig iawn o ddarpariaeth arbenigol ar waith i nodi a chynorthwyo gyda'r anghenion hyn.
O ystyried pwysigrwydd y mater, mae'n gadarnhaol gweld pwyslais cynyddol ar sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn y polisi blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Hyd yma, rydym wedi gweld therapydd lleferydd ac iaith yn cael eu cyflogi ym mhob tîm Dechrau'n Deg yng Nghymru, sy'n gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. Rhan o rôl y therapydd yw uwchsgilio gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn yr ardaloedd hyn a gwella gwybodaeth a sgiliau rhieni, wrth gwrs, i gefnogi datblygiad iaith gynnar plant.
Mae'r buddsoddiad cymharol fach hwn o ran nifer y therapyddion lleferydd ac iaith a gyflogir yn cael effaith fawr ar ganlyniadau plant ifanc mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Yn 2015, enillodd therapyddion iaith a lleferydd Dechrau'n Deg Pen-y-bont ar Ogwr wobr GIG am eu gwaith yn lleihau oedi ieithyddol mewn plant dwy a thair oed. Gweithient gyda chylchoedd meithrin Dechrau'n Deg yno i gyfyngu'n sylweddol ar nifer y plant a ddangosai oedi o ran eu sgiliau iaith. Sgriniwyd 600 o blant wrth iddynt ddechrau yn y cylchoedd meithrin, ac aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith 73 y cant ohonynt, a fyddai, fel y gwyddom, yn effeithio ar ddatblygiad dysgu yn y dyfodol. Ar ôl yr ymyriadau a ddarparwyd gan staff meithrin, ymyriadau a gynlluniwyd ac a gefnogwyd gan therapyddion lleferydd ac iaith Dechrau'n Deg, roedd dros ddwy ran o dair o'r plant gyda'r oedi ieithyddol gwaethaf wedi gwella. Dyna dros 400 o blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn unig sydd wedi cael eu cyfleoedd bywyd wedi'u gwella'n sylweddol diolch i ymyrraeth y therapyddion lleferydd ac iaith.