– Senedd Cymru am 3:10 pm ar 14 Mawrth 2018.
Datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. David Rees.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a'r hyn y mae gwyddoniaeth yn ei gynnig i gymdeithas. Fodd bynnag, wrth inni ddefnyddio'r wythnos hon i hyrwyddo gwyddoniaeth, rydym wedi colli un o wyddonwyr mwyaf y DU heddiw, yr Athro Stephen Hawking. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau yn eu colled. Gwnaed llawer o sylwadau gwych gan bobl o bob rhan o gymdeithas—gwleidyddion, academyddion, pobl o fyd y cyfryngau—mewn perthynas â'i waith yn hybu dealltwriaeth o sut y mae'r bydysawd yn bodoli, ac ar ei ddyngarwch. Mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod yr effaith a gafodd yn cyflwyno gwyddoniaeth, a ffiseg yn arbennig, i fywydau pobl. Gwerthodd ei lyfr A Brief History of Time 10 miliwn o gopïau, ac rwyf wedi cael gwybod ei fod yn ôl ar frig rhestr lyfrau Amazon heddiw mewn gwirionedd. Roedd yn un o'r rhai cyntaf i wneud gwyddoniaeth yn ddeniadol i gynulleidfa ehangach, ac ni ddylid colli hynny byth. Ymddangosodd ar The Simpsons hyd yn oed, i wneud yn siŵr fod y neges honno'n cael ei lledaenu.
Mae Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ba mor bwysig yw gwyddoniaeth i economi Cymru. Mewn un sector yn unig, y gwyddorau bywyd, mae gennym 361 o gwmnïau yng Nghymru, wedi'u rhestru dros naw o ddiwydiannau, gyda throsiant amcangyfrifedig o £2 biliwn a dros 11,000 o weithwyr. Mae gwyddoniaeth yn sail i lawer o ddiwydiannau yng Nghymru mewn gwirionedd, gan gynnwys dyfodol cynhyrchu dur yn fy etholaeth, ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol o wyddonwyr a pheirianwyr a fydd yn parhau i fwrw hynny yn ei flaen, a'n bod yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sy'n bodoli ym maes gwyddoniaeth yn ogystal, a'n bod yn cael gwared ar yr ystrydeb sy'n bodoli, fel y gallwn ymestyn atyniad byd gwyddoniaeth i'r holl bobl ifanc a'u rhieni.
I gloi, Lywydd, wrth i ni gofio'r Athro Hawking, gadewch i bawb ohonom weithio i sicrhau bod ei ffydd yn natur gadarnhaol gwyddoniaeth yn treiddio drwy ein holl weithredoedd.
Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, roedd yn bleser mawr ymuno â chymuned Bedlinog, yn fy etholaeth, wrth iddynt ddathlu agoriad eu llyfrgell gymunedol. Yn rhy aml, rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon a chlywed am golli gwasanaethau lleol mewn cynifer o gymunedau yng Nghymru, oherwydd na allwn osgoi effaith a chanlyniadau'r pwysau a achoswyd gan gyni a thoriadau i'r gyllideb. Ond diolch byth, mewn llawer o achosion, yr ymateb i'r problemau hyn yw menter pobl leol sydd eisiau diogelu a gwella eu cymuned eu hunain, a dyna stori llyfrgell gymunedol Bedlinog. Ar adeg pan fo dros 400 o lyfrgelloedd ar draws y wlad wedi cau, mae ymdrech cynifer o wirfoddolwyr wedi chwarae rhan allweddol yn sicrhau, a bellach yn ystyried ehangu, y gwasanaeth lleol hwn—yn arbennig y gweithiwr ysgol, Ann Mills, sydd wedi gyrru'r prosiect gyda chefnogaeth gan Gyngor Cymuned Bedlinog, y cyngor bwrdeistref sirol, a Llywodraeth Cymru. Darparodd yr ymdrechion gwirfoddoli y wreichionen, nid yn unig ar gyfer y llyfrgell hon, ond ar gyfer datblygu cymuned Bedlinog, gyda llawer o weithgareddau a prosiectau eraill yn cael eu cynllunio o ganlyniad i hyn. Mae'n amlwg i mi fod gan y grŵp hwn o wirfoddolwyr, gyda llesiant Bedlinog yn ganolog i'w gwaith, weledigaeth ehangach ar gyfer eu pentref yn awr hefyd: pentref lle mae'r gwasanaeth hwn a'r ysgol yn tyfu fel canolbwynt ar gyfer cefnogi bywyd y gymuned. Dyma fenter sy'n haeddu cydnabyddiaeth yn y lle hwn, oherwydd mae gweld cymuned yn dod ynghyd ac yn ymateb i amgylchiadau anffafriol yn y ffordd y mae Bedlinog wedi'i wneud yn ysbrydoliaeth. Felly, da iawn a diolch i chi i gyd.
Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael croesawu'r seneddwr nodedig o El Salvador a chyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig, Rubén Zamora, i'r Cynulliad Cenedlaethol yfory. Mae ymweliad Mr Zamora yn rhan o ŵyl Romero, sy'n arwain at Ddiwrnod Romero ar 24 Mawrth. Mae ymweliad Mr Zamora â Chaerdydd yn un o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Romero, sy'n anelu i hyrwyddo bywyd, gweinyddiaeth a merthyrdod Óscar Romero ledled y DU. Óscar Romero oedd Archesgob San Salvador pan gafodd ei lofruddio ar 24 Mawrth 1980 tra oedd yn dathlu'r offeren. Cafodd ei ddatgan yn ferthyr a'i wynfydu 35 mlynedd yn ddiweddarach yn 2015. Bydd Rubén Zamora yn sôn am Monseñor Romero a'r sefyllfa bresennol yn El Salvador, ac yna'n ateb cwestiynau gan gynulleidfa a fydd wedi dod ynghyd.
Rwy'n falch iawn o groesawu Rubén Zamora i Gymru. Mae ganddo yrfa nodedig fel diplomydd a gwleidydd democrataidd cymdeithasol ac roedd yn ddadleuwr brwd dros heddwch drwy gydol rhyfel cartref y wlad tan 1992. Fel un o'r aelodau a sefydlodd yr wrthblaid wleidyddol, yr FDR, teithiodd Zamora y byd yn adeiladu cefnogaeth ddiplomyddol i drafodaethau heddwch, ond bu'n rhaid iddo dreulio rhai blynyddoedd yn alltud yn dilyn bygythiadau i'w deulu. Y llynedd, ymddiswyddodd Rubén Zamora o'i swydd fel cynrychiolydd El Salvador yn y Cenhedloedd Unedig, ar ôl gwasanaethu fel llysgennad i'r Unol Daleithiau ac i India cyn hynny. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o ymweliad Rubén â'r DU.
Russell George.
Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i annog Cymru gyfan i gefnogi'r Drenewydd yng nghystadleuaeth cymdogaethau gorau Prydain i gerdded. Y Drenewydd yw'r unig dref yng Nghymru sydd wedi cael lle ar y rhestr fer fel un o'r 10 tref orau yn y DU, a daw'r pleidleisio i ben am 11.59 p.m. heddiw. Rydym angen cynifer o bleidleisiau ag y bo modd i ennill gwobr Cymdeithas y Cerddwyr. Mae gan Gyngor Sir Powys a Chyngor Tref y Drenewydd weledigaeth gyffredin ac uchelgais i ddatblygu rhwydwaith teithio llesol, a fydd yn sicrhau gwasanaethau mwy hygyrch yn y dref.
Hoffwn hefyd longyfarch Cymdeithas y Cerddwyr ar gynnal cystadleuaeth Cymdogaethau Gorau Prydain i Gerdded am y tro cyntaf erioed. Ac rwy'n cytuno; mae'n dda dathlu mwy o gymdogaethau da ar gyfer cerdded a'r bobl sy'n gwneud iddynt ddigwydd. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch y Drenewydd a Chymru, a phleidleisiwch yn awr drwy wefan Cymdeithas y Cerddwyr. Rwyf wedi anfon y ddolen at bob Aelod mewn e-bost, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig eiliadau o'ch amser. Diolch yn fawr iawn.