Ansicrwydd Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 20 Mawrth 2018

Wel, dau beth. Yn gyntaf, mae'n hollbwysig ein bod ni'n ystyried beth yw'r sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, rŷm ni'n gweithio gyda'r cynghrair yn erbyn tlodi er mwyn delio gyda'r ansicrwydd ynglŷn â bwyd. Ond, beth sy'n wahanol ar hyn o bryd yw bod lefel y tlodi ymhlith y rheini sydd o oedran gweithio yn waeth nag ydyw ymhlith pensiynwyr. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Yn hanesyddol rŷm ni’n tueddu meddwl, os yw pobl yn byw ar bensiwn, eu bod nhw mewn sefyllfa waeth. Nid felly mae hi ar hyn o bryd, achos rŷm ni wedi gweld siẁd doriadau i fudd-daliadau i’r rheini sydd o oedran gweithio. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Dyna pam, wrth gwrs, mae’n hollbwysig i sicrhau bod y pwysau sydd yna ar incwm siẁd gymaint o deuluoedd ar hyn o bryd yn cael ei godi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.