1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ansicrwydd bwyd yng Nghymru? OAQ51954
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghrair tlodi bwyd Cymru i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, ac mae hynny'n cynnwys cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd, gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr ac archfarchnadoedd i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau corfforaethol a chymdeithasol.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ddechrau mis Chwefror, cafodd Emma Lewell-Buck AS ei hail ddarlleniad o'i Bil Ansicrwydd Bwyd arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y Bil yw sicrhau bod Llywodraeth y DU yn sefydlu proses monitro blynyddol, ac adrodd ar ansicrwydd bwyd yn y DU.
Cysylltodd Jig-So â mi fis diwethaf am y mater penodol hwn. Mae hon yn elusen sy'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, ac maen nhw'n dweud bod dau ddull yn bodoli ar gyfer cynnal arolwg sydd wedi eu dilysu ac y gellid eu cyflwyno'n rhad i fesur ansicrwydd bwyd. Prif Weinidog, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o gyflwyno dulliau cynnal arolwg o ansicrwydd bwyd i Gymru?
Wel, rydym ni'n gweithio gyda Chynghrair Tlodi Bwyd Cymru i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni'n deall bod nifer o ddulliau o gynnal arolwg o ansicrwydd bwyd. Maen nhw i gyd yn casglu gwybodaeth bwysig y mae angen ei hystyried yn ofalus. Nodaf, er enghraifft, bod arolwg diweddar End Hunger UK wedi tynnu sylw at y ffaith bod traean o aelwydydd tlotaf y DU yn peidio â chael prydau gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd, gan fod cyni cyllidol a phrisiau bwyd sy'n codi yn ysgogi newyn cudd. Rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r sefyllfa gyda chredyd cynhwysol. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda sefydliadau i nodi dull y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, oherwydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod nifer o ddulliau. Ond maen nhw i gyd yn cyfleu yr un neges, sef bod cyni cyllidol yn gyrru pobl i dlodi.
Prif Weinidog, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif maint y broblem ansicrwydd bwyd yn y DU ac, yn wir, mewn gwledydd eraill, ond mae'n ymddangos i mi, o edrych drwy rywfaint o'r wybodaeth y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei darparu, bod diffyg data perthnasol cyfredol, ar lefel y DU ac yn benodol i Gymru, fel y gallwn asesu maint y broblem hon yn llawn. Rwy'n credu bod y data sy'n cael eu defnyddio tua 10 mlwydd oed. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i Lywodraeth Cymru gasglu mwy o ddata penodol i Gymru neu, yn niffyg hynny, gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni sicrhau bod y data hynny yn gwbl gyfredol fel ein bod ni'n gwybod maint y broblem yr ydym ni'n ymdrin â hi?
Wel, cyhoeddwyd yr arolwg End Hunger—neu yn hytrach, adlewyrchodd ganfyddiadau a gyhoeddwyd y llynedd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mewn gwirionedd, roedd arolwg End Hunger UK yn fwy diweddar na hynny, hyd yn oed.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod dadansoddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos, mewn mannau lle mae credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno'n llawn ers chwe mis neu fwy, y bu cynnydd cyfartalog o 30 y cant i'r defnydd o fanciau bwyd ar ôl ei gyflwyno o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r rhain yn ffigurau diweddar ac maen nhw'n dangos maint y broblem sy'n cael ei hachosi gan gyni cyllidol diddiwedd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gynnal digwyddiad yma gyda Sefydliad y Merched ynglŷn â thlodi bwyd. Roedd Jig-So o Aberteifi'n bresennol, roedd y gynghrair tlodi bwyd yn bresennol a'r Trussell Trust hefyd yn bresennol. Mae'n amlwg bod Sefydliad y Merched am arwain ymgyrch ynglŷn â thlodi bwyd dros y misoedd nesaf, ac mae yna agwedd, wrth gwrs, ynglŷn â sefyllfa menywod yn arbennig yma, achos nhw, yn bennaf, sydd yn colli pryd o fwyd yn y sefyllfa yma. Mae hynny'n agwedd y dylem ni fod yn glir arni gyda bygythiad universal credit yn dod lawr y lein i nifer o gymunedau yng Nghymru, fel sydd newydd gael ei gyfeirio ato. Beth fyddech chi'n gallu ei wneud, fel Llywodraeth, i gydweithio gyda mudiadau fel Sefydliad y Merched, sydd yn mynd i mewn i gymunedau i wneud yn siŵr bod y gorau glas yn cael ei wneud i gefnogi'r teuluoedd hynny sydd yn wynebu llymder?
Wel, dau beth. Yn gyntaf, mae'n hollbwysig ein bod ni'n ystyried beth yw'r sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, rŷm ni'n gweithio gyda'r cynghrair yn erbyn tlodi er mwyn delio gyda'r ansicrwydd ynglŷn â bwyd. Ond, beth sy'n wahanol ar hyn o bryd yw bod lefel y tlodi ymhlith y rheini sydd o oedran gweithio yn waeth nag ydyw ymhlith pensiynwyr. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Yn hanesyddol rŷm ni’n tueddu meddwl, os yw pobl yn byw ar bensiwn, eu bod nhw mewn sefyllfa waeth. Nid felly mae hi ar hyn o bryd, achos rŷm ni wedi gweld siẁd doriadau i fudd-daliadau i’r rheini sydd o oedran gweithio. A dyna beth yw’r gwahaniaeth. Dyna pam, wrth gwrs, mae’n hollbwysig i sicrhau bod y pwysau sydd yna ar incwm siẁd gymaint o deuluoedd ar hyn o bryd yn cael ei godi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cyn i ni symud ymlaen, mae’n briodol ein bod ni’n cofnodi marwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards, Arglwydd Crickhowell, dyn a gafodd y weledigaeth ar gyfer trawsnewid yr ardal yma—bae Caerdydd— sy’n gartref i’n Senedd ni heddiw. A hefyd, Ivor Richard, Arglwydd Rhydaman, a arweiniodd y gwaith allweddol yn 2004 o baratoi’r ffordd tuag at gryfhau ein Cynulliad Cenedlaethol a chreu Senedd gryfach i Gymru. Rydw i’n siŵr, fel Cynulliad cyfan, ein bod ni’n cydymdeimlo gyda theuluoedd y ddau unigolyn.