Ansicrwydd Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:14, 20 Mawrth 2018

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i gynnal digwyddiad yma gyda Sefydliad y Merched ynglŷn â thlodi bwyd. Roedd Jig-So o Aberteifi'n bresennol, roedd y gynghrair tlodi bwyd yn bresennol a'r Trussell Trust hefyd yn bresennol. Mae'n amlwg bod Sefydliad y Merched am arwain ymgyrch ynglŷn â thlodi bwyd dros y misoedd nesaf, ac mae yna agwedd, wrth gwrs, ynglŷn â sefyllfa menywod yn arbennig yma, achos nhw, yn bennaf, sydd yn colli pryd o fwyd yn y sefyllfa yma. Mae hynny'n agwedd y dylem ni fod yn glir arni gyda bygythiad universal credit yn dod lawr y lein i nifer o gymunedau yng Nghymru, fel sydd newydd gael ei gyfeirio ato. Beth fyddech chi'n gallu ei wneud, fel Llywodraeth, i gydweithio gyda mudiadau fel Sefydliad y Merched, sydd yn mynd i mewn i gymunedau i wneud yn siŵr bod y gorau glas yn cael ei wneud i gefnogi'r teuluoedd hynny sydd yn wynebu llymder?