Ansicrwydd Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni'n gweithio gyda Chynghrair Tlodi Bwyd Cymru i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym ni'n deall bod nifer o ddulliau o gynnal arolwg o ansicrwydd bwyd. Maen nhw i gyd yn casglu gwybodaeth bwysig y mae angen ei hystyried yn ofalus. Nodaf, er enghraifft, bod arolwg diweddar End Hunger UK wedi tynnu sylw at y ffaith bod traean o aelwydydd tlotaf y DU yn peidio â chael prydau gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd, gan fod cyni cyllidol a phrisiau bwyd sy'n codi yn ysgogi newyn cudd. Rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r sefyllfa gyda chredyd cynhwysol. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw gweithio gyda sefydliadau i nodi dull y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, oherwydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n ymddangos bod nifer o ddulliau. Ond maen nhw i gyd yn cyfleu yr un neges, sef bod cyni cyllidol yn gyrru pobl i dlodi.