Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 20 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif maint y broblem ansicrwydd bwyd yn y DU ac, yn wir, mewn gwledydd eraill, ond mae'n ymddangos i mi, o edrych drwy rywfaint o'r wybodaeth y mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei darparu, bod diffyg data perthnasol cyfredol, ar lefel y DU ac yn benodol i Gymru, fel y gallwn asesu maint y broblem hon yn llawn. Rwy'n credu bod y data sy'n cael eu defnyddio tua 10 mlwydd oed. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i Lywodraeth Cymru gasglu mwy o ddata penodol i Gymru neu, yn niffyg hynny, gweithio gyda Llywodraeth y DU i weld a allwn ni sicrhau bod y data hynny yn gwbl gyfredol fel ein bod ni'n gwybod maint y broblem yr ydym ni'n ymdrin â hi?