Dysgu Rhan Amser i Oedolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:35, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddwn i'n bresennol mewn seminar gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, pryd y tynnwyd sylw at y rheini sydd angen dychwelyd i'r gwaith, a dychwelyd i addysg a datblygu eu sgiliau. Ac un o'r materion a godwyd oedd y ffaith y gallai fod yn anghyfforddus ac yn frawychus i'r bobl hynny sy'n dychwelyd i addysg fynd i leoliadau coleg ffurfiol, lle gallai'r awenau gael eu cymryd gan bobl ifanc, sy'n datblygu eu sgiliau yn yr amgylcheddau hynny ac sydd â chyfres wahanol o anghenion o ran sgiliau efallai. Felly, mae dysgu yn y gymuned yn bwysig iawn, lle gall dysgwyr sy'n dychwelyd ddatblygu eu sgiliau mewn lleoliadau cymunedol. A fyddech chi'n fodlon ymrwymo i fod yn rhan o'r strategaeth sgiliau genedlaethol, a hefyd i'r corff addysg a hyfforddiant ôl-orfodol newydd sy'n goruchwylio addysg bellach ac addysg uwch wneud dysgu yn y gymuned yn ganolog i'w cenhadaeth hwythau hefyd?