Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 20 Mawrth 2018.
Byddwn. Fe'i gwnaed yn eglur gennym yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod ni'n cydnabod gwerth addysg. Rydym ni eisiau ennyn brwdfrydedd at addysg, wrth gwrs, ymhlith ein pobl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cynorthwyo'r rheini sydd angen ein cymorth fwyaf. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr, pan mai lleoliad cymunedol yw'r un mwyaf priodol, ei fod ar gael yn y dyfodol. O ran Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, iddyn nhw, eu tasg fydd darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol i'r sector AHO cyfan, gan gynnwys dysgu oedolion, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl mor agos i gartref â phosibl.