1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu rhan amser i oedolion? OAQ51966
Fe'i gwnaed yn eglur gennym yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod ni'n cydnabod gwerth addysg ac yn bwriadu meithrin angerdd at ddysgu ym mhawb trwy gydol eu bywydau. Rydym ni'n cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i oedolion, gyda phwyslais eglur ar gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf angen ein cymorth.
Roeddwn i'n bresennol mewn seminar gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, pryd y tynnwyd sylw at y rheini sydd angen dychwelyd i'r gwaith, a dychwelyd i addysg a datblygu eu sgiliau. Ac un o'r materion a godwyd oedd y ffaith y gallai fod yn anghyfforddus ac yn frawychus i'r bobl hynny sy'n dychwelyd i addysg fynd i leoliadau coleg ffurfiol, lle gallai'r awenau gael eu cymryd gan bobl ifanc, sy'n datblygu eu sgiliau yn yr amgylcheddau hynny ac sydd â chyfres wahanol o anghenion o ran sgiliau efallai. Felly, mae dysgu yn y gymuned yn bwysig iawn, lle gall dysgwyr sy'n dychwelyd ddatblygu eu sgiliau mewn lleoliadau cymunedol. A fyddech chi'n fodlon ymrwymo i fod yn rhan o'r strategaeth sgiliau genedlaethol, a hefyd i'r corff addysg a hyfforddiant ôl-orfodol newydd sy'n goruchwylio addysg bellach ac addysg uwch wneud dysgu yn y gymuned yn ganolog i'w cenhadaeth hwythau hefyd?
Byddwn. Fe'i gwnaed yn eglur gennym yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod ni'n cydnabod gwerth addysg. Rydym ni eisiau ennyn brwdfrydedd at addysg, wrth gwrs, ymhlith ein pobl, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cynorthwyo'r rheini sydd angen ein cymorth fwyaf. Ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr, pan mai lleoliad cymunedol yw'r un mwyaf priodol, ei fod ar gael yn y dyfodol. O ran Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, iddyn nhw, eu tasg fydd darparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol i'r sector AHO cyfan, gan gynnwys dysgu oedolion, ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl mor agos i gartref â phosibl.
Prif Weinidog, addawyd buddsoddiad sylweddol i bobl Casnewydd gyda chlwstwr digidol newydd, a allai adfywio'r ddinas. A wnewch chi gynnig y cyfleoedd i oedolion sydd mewn swyddi cyflog isel ar hyn o bryd i ailhyfforddi ar gyfer economi ddigidol newydd Casnewydd?
Mae'n ddrwg gen i, chlywais i ddim ail ran y cwestiwn yna.
A wnewch chi gynnig y cyfleoedd i oedolion sydd mewn swyddi cyflog isel ar hyn o bryd i ailhyfforddi—yn rhan-amser mae'n debyg—ar gyfer economi ddigidol newydd Casnewydd?
Wel, wrth gwrs, bydd y Cynulliad yn gwybod mwy am y cynllun cyflogadwyedd yn ystod y prynhawn yma ac, wrth gwrs, mae cynyddu sgiliau pobl, ac felly eu gallu i symud i swyddi sy'n talu'n well, yn rhan bwysig o hynny.
Wrth gwrs, mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, mae gennym ni oedran ymddeol sy'n codi, ac, wrth gwrs, mae colled o swyddi ar y gorwel yn y dyfodol oherwydd awtomeiddio, a bydd angen i'r genhedlaeth hŷn addasu a dysgu sgiliau newydd mewn ffordd efallai nad yw wedi digwydd yn y gorffennol. Nawr, bydd angen felly i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth i'r bobl hynny ar yr adegau pontio allweddol hyn. Felly, a gaf i ofyn sut y bydd dysgu cymunedol i oedolion yn rhan o'ch cynllun cyflogadwyedd fel y gallwn ni sicrhau bod gan bob oedolyn y mynediad y bydd ei angen arnynt yn gynyddol yn y blynyddoedd i ddod at ddysgu gydol oes?
Wel, byddwn yn ymgynghori yn fuan ar strwythur ariannu a darparu dysgu i oedolion yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym ni eisiau edrych ar yr annhegwch—yw'r gair, rwy'n meddwl, y byddwn i'n ei ddefnyddio ar ei gyfer—presennol o ran cyfleoedd dysgu ledled Cymru. Mae'n rhaid i'n gweledigaeth ar gyfer dysgu i oedolion fod yn un sy'n canolbwyntio ar drechu tlodi, i wneud yn siŵr nid yn unig bod pobl yn meddu ar y sgiliau, wrth gwrs, i gael mynediad at y gweithle, ond eu bod nhw'n cael y cyfle fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, i ddysgu drwy gydol eu bywydau. Mae'r byd yn lle sy'n newid yn gyflym, ac mae'n mynd yn gyflymach fyth, fel y mae'r Aelod dros Lanelli ac eraill eisoes wedi ei ddweud. Felly, bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n rhan bwysig o'r cyfeiriad y byddwn ni'n ei ddilyn o ran darparu'r lefel briodol o ddysgu i oedolion, gan gofio, wrth gwrs, y swm o arian a dorrwyd o'n cyllideb ers 2010.