1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Mawrth 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am uwchraddio'r rhwydweithiau ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51958
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn y canolbarth a'r gorllewin, fel y nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â mannau cyfyng ar y rhwydwaith cefnffyrdd trwy raglen benodol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod gwaith uwchraddio i'w groesawu'n fawr, ond ei fod weithiau'n gallu achosi tarfu a chostau economaidd, ac mae'n bwysig, felly, ei fod yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl. Ar hyn o bryd, ceir prosiect ailsignalu ar yr A477 i Ddoc Penfro ar ei chyffordd â'r A4139. Mae hon wedi ei dynodi'n ffordd rhwydwaith Ewropeaidd bwysig. Dyma'r prif lwybr, wrth gwrs, i'r fferi i Iwerddon yn Noc Penfro a hefyd y prif lwybr o Benfro i bont Cleddau. O gofio bod disgwyl i hyn bara am 17 wythnos—mae hynny bron i draean o'r flwyddyn—oni fyddai'n ddoeth mewn prosiectau o'r math hwn y dylent gael eu cynnal nid yn unig yn ystod oriau gwaith arferol, ond hefyd yn y nos neu dros y penwythnos er mwyn lleihau'r dryswch economaidd y mae'n anochel y byddant yn ei achosi?
Wel, nid yw'n gweithio, wrth gwrs, yn y nos, gan fod y fferi yn gadael tua 02:30 i 02:45 yn y bore. Felly, o ran y fferi—. Ydy, mae'n drist, rwy'n gwybod hynny. Ond mae'r fferïau yn gadael tua 02:30 yn y bore a tua 14:30 yn y prynhawn. Felly, nid yw'n gweithio o ran gweithio yn ystod y nos, pan ddaw i draffig fferi. Ond dim ond i atgoffa'r Aelodau: mae'r gwaith hwn yn darparu llwybr mwy diogel i gerddwyr trwy gyflwyno signalau traffig ar y gyffordd rhwng Lôn y Fferi a'r A477. Mae'n hanfodol i wella diogelwch. Fe'i cefnogir gan Gyngor Sir Penfro. Disgwylir ar hyn o bryd iddo gael ei gwblhau ym mis Mai eleni. Nawr, er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, mae'n anochel y bydd rhywfaint o darfu. Ond, wrth gwrs, pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd yn sicrhau bod diogelwch yn well.