Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch ichi, Mohammad. Credaf fod rhai o'r targedau wedi cael eu nodi yn y ddogfen, felly gallwch fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir yn y fan honno. Byddaf yn ceisio sicrhau mwy o fanylder; rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr effaith ranbarthol, a sut olwg sydd ar bethau yn rhanbarthol, felly byddwn yn monitro hyn mewn ffordd gydlynol iawn. Ond byddwn yn gwneud hynny mewn modd systematig dros gyfnod hir o amser. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi yn fy nal i gyfrif yn hyn o beth oherwydd bydd yn bwysig i mi i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni. Ac un o'r pethau y byddwn yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn tynnu ynghyd yr holl wahanol sefydliadau mawr sy'n gweithio yn y maes hwn. Rydym eisoes wedi siarad â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel nad ydym ni i gyd yn mynd ar ôl yr un rhai a allent fod yn economaidd anweithgar; ein bod ni'n cydgysylltu ein hymdrechion.
Yr ardoll prentisiaeth: wel, oni fyddai wedi bod yn hyfryd pe byddai Llywodraeth y DU wedi ymgynghori â ni mewn gwirionedd cyn iddyn nhw ei gyflwyno? Dyna ran o'r broblem. Cafodd hyn ei orfodi arnom ni, ac rydym bellach yn gorfod gweithio gyda'r system sydd gyda ni. Nid wyf i'n siŵr a fyddwn i'n hyrwyddo'r system talebau yn Lloegr pe byddwn yn eich lle chi. Bu cwymp enfawr yn nifer y prentisiaethau yn Lloegr yn ystod y misoedd diwethaf, felly nid wyf yn sicr mai hwnnw yw'r patrwm sydd angen inni ei ddilyn, ond yr hyn na fyddwn ni'n cyfaddawdu arno yw ansawdd y prentisiaethau yng Nghymru.
Ar y sector adeiladu: rydym ni wedi bod yn gwneud llawer o waith yn y sector hwn. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn edrych yn fanwl ar hyn: beth mae'r cyflogwyr yn edrych amdano? Beth yw'r safonau a'r rhinweddau y maen nhw'n chwilio amdanynt? Ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, ond un o'r pethau y byddwn ni'n ei ofyn yw bod sefydliadau addysg bellach yn ymateb. Rydym yn gofyn iddyn nhw ymateb i'r bartneriaeth sgiliau ranbarthol. Felly, yr hyn sydd gennym ni nawr yw'r cyflogwyr hyn i gyd yn dweud wrthym beth sydd ei angen arnyn nhw. Mae angen inni wneud yn siŵr nawr bod hynny'n cael ei drosglwyddo a'i egluro i'r colegau addysg bellach a'u bod yna yn ymateb i hynny, fel y gallwn roi i'r cyflogwyr hynny y sgiliau y maen nhw'n chwilio amdanynt.
Ac i gloi, o ran pobl anabl yn benodol: mae llawer o waith gennym ni eto i'w wneud yn y maes hwn. Dim ond 49 y cant o bobl anabl yng Nghymru sydd yn gweithio. Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud yn hyn o beth. Mae'n ddiddorol iawn: pan fyddwch yn gofyn i gyflogwyr helpu, mae llawer ohonynt yn barod i wneud hynny, ac mae llawer o gefnogaeth y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau ei roi hefyd. Felly, byddwn yn gwneud llawer mwy o waith yn y maes penodol hwnnw, gallaf eich sicrhau chi.