Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 20 Mawrth 2018.
Rydw i yn credu bod yn rhaid cymeradwyo'r Llywodraeth o ran yr uchelgais sydd yn cael ei gosod mas gyda'r targedau. Mae rhai ohonyn nhw'n bell-gyrhaeddol iawn: hynny yw, cau'r bwlch o ran sgiliau, o ran y gwahanol lefelau cymhwyster rhwng Cymru a’r Deyrnas Gyfunol dros gyfnod o ddegawd. Mae hynny’n uchelgeisiol, ond a gawn ni glywed beth yw’r adnodd sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer cwrdd â rhai o’r targedau yma? Dim ond ychydig o sôn am gynnydd mewn cyllid sydd yna ar gyfer y rhaglenni, a dweud y gwir, felly, a ydy’r Gweinidog yn gallu rhoi syniad inni o ran y buddsoddiad sydd yn sail i’r cynllun?
A all y Gweinidog hefyd esbonio’r rhesymeg dros ailgyflwyno cyfrifon dysgu unigol? Hen bolisi, wrth gwrs, a oedd wedi cael ei ddiddymu gan Lywodraeth Cymru saith mlynedd yn ôl, nad oedd yn cael ei weld fel llwyddiant mawr, a dweud y gwir. Yn Lloegr, wrth gwrs, roedd wedi cael ei ddiddymu oherwydd yr oedd wedi achosi un o’r achosion o dwyll ariannol mwyaf erioed. Felly, byddai deall rhesymeg y Llywodraeth efallai’n help fanna.
O ran y sector dysgu oedolion yn y gymuned, roedd rhagflaenydd y Gweinidog wedi rhoi datganiad polisi nôl yn yr haf. Oherwydd ei fod yn sector sydd wedi gweld erydu yn ei ariannu yn eithaf dybryd dros gyfnod o amser, roeddem wedi cael addewid y byddai yna gyllido newydd, ac y byddai strwythur newydd a chynllun newydd. A ydy’r Gweinidog yn gallu sôn am hynny yng nghyswllt y cynllun y mae hi wedi’i gyflwyno?
O ran y ffocws yma ar ddynesiad wedi’i deilwra at yr unigolyn, rwy’n credu bod yna lawer o rinwedd yn hynny, ond a fyddai hynny'n gallu cael ei ymestyn, er enghraifft, i dracio cynnydd unigolion ar ôl iddynt adael addysg ffurfiol? Er enghraifft, y math o waith tracio sydd wedi cael ei wneud yn llwyddiannus iawn yng Ngheredigion, a chysylltu hynny gydag un syniad, wrth gwrs, o sut i gau bylchau sgiliau Cymru, sef denu myfyrwyr yn ôl sydd wedi gadael Cymru, wedi astudio yn Lloegr, a cheisio'u denu nhw yn ôl, fel mae ein plaid ni wedi bod yn pwysleisio ers talwm.
Yn olaf, wedi hynny, roedd cyfeiriad at yr angen am sgiliau Cymraeg yn eich cyflwyniad chi. Wrth gwrs, rŷm wedi gweld tystiolaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg, y ffigwr arbennig o isel o ran prentisiaethau, er enghraifft, sydd yn cael eu cynnig yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg—0.3 y cant, rwy’n credu, oedd y ffigwr roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gyflwyno. A allwn ni gael targed ar gyfer darpariaeth, yn sicr o ran y ddarpariaeth alwedigaethol sydd yn isel iawn ar hyn o bryd, ac o ran prentisiaethau, fel ei bod yn gallu cyfrannu nid yn unig at y polisi o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond hefyd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i fedru cyrraedd eu potensial o ran eu sgiliau nhw hefyd?