Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 20 Mawrth 2018.
A gaf i ddechrau trwy groesawu cyhoeddiad y Bil deddfwriaeth drafft hwn, a hefyd y ddogfen ymgynghori a'r cyfnod a gaiff ei roi nawr i'r ymgynghoriad hwnnw o bron i dri mis? Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn ac mae angen ymgynghori'n helaeth arnynt. Gwn y bydd gan y Llywodraeth ddiddordeb mawr yn yr ystod o safbwyntiau y mae'n gobeithio eu cael drwy'r broses hon. Ar yr ochr hon i'r Cynulliad, rydym ni'n rhannu'r dyhead yn llwyr i wneud ein cyfraith yn fwy hygyrch. Credaf ei bod yn bwysig dros ben i'r cyhoedd ein bod yn gwneud hyn, ac ni allaf feddwl am lawer o dasgau gwell o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud yn ein prosesau technegol o wneud deddfau—ond, o ran sefydliad newydd, Senedd newydd, i wir osod y safonau uchaf ar gyfer gweddill y DU, o bosibl, yn y ffordd y byddwn yn gwneud hyn.
Mae cymhlethdod diangen, heb unrhyw amheuaeth, yn tanseilio atebolrwydd democrataidd. Rydym ni ar hyn o bryd mewn system lle nad yw cyfreithwyr eithaf dawnus yn gallu deall llawer o'r llyfr statud. Mae angen ichi fod ag arbenigedd gwirioneddol mewn maes penodol o'r gyfraith i allu ei ddehongli, a go brin fod hyn yn beth da, yn fy marn i, ar gyfer y maes cyhoeddus lle'r ydym ni'n gobeithio y bydd llawer o bobl â buddiannau amrywiol sydd angen mynd at y gyfraith ar unrhyw un adeg yn gallu gwneud hynny. Mae cydgrynhoi'r gyfraith hefyd yn rhywbeth dymunol iawn. Eto, fel sefydliad newydd—yn wir, dim ond saith oed ydym ni fel Senedd, mewn gwirionedd—gallwn ni fod â'r nod o gael llyfr statud sydd mewn cyflwr llawer mwy rhesymegol a chrynodedig. Dylwn i ddweud nad ydym ni wedi gwneud yn wych hyd yn hyn. Mae hynny oherwydd nad yw cydgrynhoi yn rhwydd. Rwy'n derbyn hynny. Ond, rwy'n dal i gredu, ar gyfer y meysydd pwysig, y dylem ni wneud y buddsoddiad hwnnw. Er enghraifft, o ran cynllunio, rydym ni ar fin gweld, ond mewn meysydd eraill o ddarnau mawr o gyfraith gyhoeddus, credaf y dylem ni ddechrau gweithio drwyddyn nhw a'u cydgrynhoi nhw. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, mewn awdurdodaethau eraill, maen nhw wedi bodloni'r dyheadau hyn, yn aml ar adeg pan eu bod nhw wedi etifeddu corff mawr o gyfraith fel deddfwrfeydd newydd. Felly, rwy'n credu mai dyna y dylem ni ei wneud. Rwy'n falch iawn o nodi beth sydd yn y drafft ar hyn o bryd yn ymwneud ag amrywiaeth o ddeunyddiau sy'n gallu helpu pobl i ddeall y gyfraith, ac mae'r cyfeiriadau a wnaethoch chi at y wefan a'r archif cenedlaethol, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ar gyfer y lleygwr sydd â diddordeb, dyna sut y bydd mewn gwirionedd yn mynd i allu cael rhyw fath o ddirnadaeth.
Mae angen i mi ofyn ychydig o gwestiynau, felly a gaf i wneud hynny yn ysbryd ymateb cynnar i'r ymgynghoriad, bron? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad o ran yr agwedd Deddf dehongli o hyn. Rydych chi yn llygad eich lle: fe wnaeth y Gymdeithas Ddysgedig, er enghraifft, flwyddyn neu ddwy yn ôl, gymeradwyo'r angen am Ddeddf dehongli, yn enwedig o ran deddfwriaeth ddwyieithog, ond byddai hefyd yn caniatáu inni foderneiddio Deddf 1978. Ond, credaf fod angen inni wybod sut y bydd unrhyw Ddeddf newydd yn y fan yma y bydd y Cynulliad yn ei phasio yn cyd-fynd â Deddf Dehongli 1978, oherwydd bydd honno'n dal i gael ei defnyddio, cyn belled ag y gallaf i weld. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ceisio sefydlu egwyddorion dehongli ar wahân a fyddai'n gymwys yng Nghymru, ond nad ydynt, ar hyn o bryd, yn rhan hanfodol o Ddeddf 1978? A gaf i ddweud hefyd, o ran cwmpas yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud—? Rwy'n troi at Atodlen 1. Mae cysyniadau pwysig iawn fel tir a pherson wedi'u cynnwys yno. Tybed a ddylai pethau o'r pwysigrwydd hwnnw fod mewn Deddf dehongli, mewn gwirionedd, sydd fel arfer yn ymwneud â thermau cyffredin a thechnegol. Onid yw'n wir bod angen dehongli rhai cysyniadau pwerus iawn ym mhob Deddf yr ydym yn ei phasio, er mwyn iddynt allu bod yn benodol ac yn dynn iawn? Gwn fod tipyn o gyfyng-gyngor yn hyn i gyd, ond byddwn yn gofyn iddo fyfyrio ar y ddwy enghraifft benodol hyn sy'n amlwg iawn i mi.
O ran hygyrchedd, rwy'n credu bod angen gweledigaeth arnom ar gyfer sut y mae hyn i gyd yn mynd i helpu, ac rwy'n dyfynnu, 'y llanastr annealladwy' sef cyfraith Cymru. Nawr, o ble mae'r dyfyniad hwnnw yn dod? Wel, ffynhonnell llawer gwell na mi: yr Arglwydd Lloyd-Jones, barnwr y Goruchaf Lys. Ac os yw barnwr y Goruchaf Lys wedi dweud wrthym fod y gyfraith ar hyn o bryd yn llanastr annealladwy, yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei basio nawr fel deddfwrfa—rwy'n credu eich bod chi'n iawn, y caiff ei chydnabod fel awdurdodaeth gyfreithiol ar ryw adeg, ond mae hwnnw'n dal i fod yn fater sensitif—yn rhesymegol, yn hygyrch ac yn glir.
Credaf fod angen inni hefyd gael syniad o sut y bydd y cod yn gweithio, gan eich bod chi wedi cyfeirio at awdurdodaethau eraill sydd wedi defnyddio'r dull hwn. Ond, wyddoch chi, o dan amgylchiadau ymarferol, a fyddai gennym ni god gofal cymdeithasol? A fyddai gennym ni god gofal iechyd? Neu a fyddech chi'n ceisio cysylltu'r rheini mewn rhyw fffordd? Yn yr un modd, a fyddai yna god cynllunio a chod amgylcheddol gwahanol? Mae llawer o wahanol ffyrdd o fynd ati i wneud y pethau hyn, ac rwy'n credu y byddai rhyw fath o syniad o faint o godau neu pa mor gynhwysfawr y maen nhw'n mynd i fod yn ddefnyddiol. Ac a fyddai cyfreithiau sydd wedi eu cynnwys mewn codau penodol yn gallu datblygu y tu allan i'r codau hynny? Oherwydd, unwaith eto, maen nhw'n cydberthyn â'i gilydd yn aml iawn, iawn.
Ac yn olaf, a gaf i ddweud, yn adran 20—ac mae hyn yn apêl fel cyn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—? Mae adran 20 yn ymwneud â chyfarwyddiadau. Maen nhw'n anodd iawn i gadw llygad arnyn nhw, cyfarwyddiadau gweinidogol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw ef wedi ystyried dull ffurfiol a strwythuredig o'u cyhoeddi, rhywbeth tebyg i'r dull sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer offerynnau statudol. Rwy'n credu y byddai hynny'n ychwanegu'n fawr at hygyrchedd cyfraith Cymru. Diolch.