Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 20 Mawrth 2018.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ystod o gwestiynau hynod o graff ac am y sylw y mae wedi'i roi i'r ymgynghoriad, yr wyf yn ei werthfawrogi'n fawr? Ceir nifer o gwestiynau yn ei gyfraniad. Gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder â nhw.
Wrth wraidd y pwyntiau y mae'n eu gwneud yn fwy cyffredinol, mae'n debyg, y mae'r syniad nad oes dim amser i'w golli, os mynnwch chi. Ceir corff o gyfraith. Rydym ni'n ddeddfwrfa gymharol ifanc o hyd. Mae angen inni achub ar y cyfle, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r broblem yn dod yn fwy a mwy anhydrin yr hiraf yr ydym yn ei gadael hi, a byddwn i, yn bendant, yn ategu'r teimlad y tu ôl i'w gyfraniad yn hynny o beth.
Bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, y bu gweithgarwch ynghylch cydgrynhoi hyd yma ar sail bob yn dipyn, os mynnwch chi, a gwnaed gwaith yn arbennig yn y maes amgylchedd hanesyddol ac, fel y bydd ef yn gwybod, ar y cyd â Chomisiwn y Gyfraith ar gydgrynhoi cynllunio, y cyfeiriodd ato yn ei sylwadau. O edrych i'r dyfodol, mae yna feysydd sy'n addas, yn amlwg, ar gyfer cydgrynhoi a chodio. Mae cyfraith llywodraeth leol yn enghraifft o hyn. Mae cyfraith addysg yn enghraifft arall. A byddaf yn sôn ymhen ychydig sut, yn fy marn i, y gall cod weithio mewn rhai o'r meysydd hynny.
Ond y syniad craidd y tu ôl i'r Bil drafft yw symud ymlaen oddi wrth y dull tameidiog i greu ymdeimlad o gyfeiriad o fewn y Llywodraeth, o fewn y ddeddfwrfa, bod hyn yn amcan ac yn nod yr ydym ni'n symud tuag ato'n gynyddol dros amser. Wedi dweud nad oes dim amser i'w golli, nid yw hwn, fel y mae ef, rwy'n ymwybodol iawn, yn gwybod, yn brosiect tymor byr; mae'n waith cenhedlaeth, mewn gwirionedd, a gallwch chi ei ddychmygu yn ymestyn dros ddegawdau, yn dibynnu ar lefel yr adnoddau a lefel y cynnydd y gall unrhyw raglen benodol ei wneud.
O ran beth fyddai nodweddion cod, dydw i ddim yn rhagweld y bydd gan y cod rhyw fath o bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân, os mynnwch chi. Felly, gydag unrhyw god, tybiaf y byddai'n un neu'n ddau, neu efallai mwy, gan ddibynnu ar gymhlethdod y pwnc dan sylw, prif Ddeddfau sy'n cydgrynhoi efallai tri neu bedwar o bynciau o fewn addysg, dyweder, dim ond i gymryd hynny fel esiampl at y diben hwn, ac yna byddai gennych islaw hynny yr offerynnau statudol perthnasol i'r is-bwnc penodol hwnnw, os mynnwch chi, ac islaw hynny—ac mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r cwestiwn y gorffennodd ef arno, ynghylch y cyfarwyddiadau—y gyfraith feddal, gyda'r codau ymarfer a chanllawiau eraill fel bod y cyfan ar gael yn gynhwysfawr mewn un man, a rhyw fath o hierarchaeth gyfreithiol yr ydym ni i gyd yn gweithredu yn unol â hi ac yn ei deall yn dda iawn. Dyna'r weledigaeth a geir yn yr ymgynghoriad hwn, mewn gwirionedd. Y peth hanfodol, fel yr oedd ef yn ei gydnabod, unwaith eto, yw bod angen ei gynnal. Rydym ni wedi gweld digon o enghreifftiau yn y gorffennol o gydgrynhoi eithaf sylweddol mewn sawl deddfwrfa, mewn gwirionedd, ac yna daw Llywodraeth newydd i mewn, mae'n diwygio'r gyfraith, ond mae'n gwneud hynny drwy Ddeddf annibynnol sy'n tanseilio'r modd y cydgrynhowyd yr hyn a ddigwyddodd yn flaenorol. Yr amcan yw osgoi hynny, ac felly byddech chi'n—. Rhan hanfodol o hyn yw bod y codau, ar ôl eu sefydlu, yn cael eu cynnal fel codau. Felly, yn ymarferol, os oes un Ddeddf cyn y diwygio, dylai fod un Ddeddf ar ôl y diwygio, mewn gwirionedd. Dyna fyddai'r egwyddor gyffredinol, oni bai bod rhesymau da iawn dros wyro oddi wrth hynny. Mae hynny'n hanfodol, mewn gwirionedd, i'r cwestiwn o hygyrchedd.
Cododd nifer o bwyntiau ynghylch cyhoeddi i gyd-fynd â hynny. Rydym ni'n eithaf pell o'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi o fod ag adnodd ar-lein sy'n gyfredol ac yn awdurdodol ar draws deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym ni'n bell o fod mewn sefyllfa i gyflawni'r amcan honno. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf â'r Archifau Cenedlaethol, argraffydd y Frenhines, i drafod yr her benodol hon, a cheir her benodol ynghylch darparu adnoddau ar gyfer yr agwedd Gymraeg ar hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw'r adnoddau sydd gennym ni, wrth gwrs, yn y fan yma. Felly, mae trafodaeth ynghylch yr agwedd honno.
Cododd nifer o bwyntiau am y Ddeddf Dehongli. O ran diffiniadau penodol, yn amlwg nid yw bodolaeth term yn y Ddeddf Dehongli yn atal y term hwnnw rhag cael ei ddiffinio mewn ffordd wahanol mewn Deddf benodol os yw hynny'n angenrheidiol at y diben. Un o'r materion, rwy'n gwybod, y mae ei bwyllgor ef wedi eu codi mewn gohebiaeth gyda mi mewn adroddiadau ar gyfer deddfwriaeth ac offerynnau statudol blaenorol yw mater adran 11 y Ddeddf flaenorol a sut y gall hynny fod yn ddryslyd, a'r cynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw na fyddai hynny'n berthnasol i Ddeddf dehongli newydd ar gyfer Cymru yn unig, ond y byddai wyneb Deddf yn egluro'r rheol honno yn fanwl, neu egluro'n fanwl y diffiniad, gan ei gwneud yn haws i ddarllenydd unigol fynd at y pwynt. Y nod yw cael dyddiad clir a chofiadwy gobeithio—1 Ionawr, efallai, mewn unrhyw flwyddyn—fel y bydd yn gwbl glir beth yw'r pwynt terfyn ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf. O ran pa Ddeddfau ac offerynnau statudol a fyddai'n berthnasol, byddai'n unrhyw Ddeddf y Cynulliad hwn ar ôl y dyddiad hwnnw, beth bynnag y byddai, ac unrhyw offerynnau statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru ar ôl y dyddiad hwnnw, pa un a yw'n dod o dan Ddeddf y Cynulliad neu Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig. Felly, dylai fod yn eithaf syml i ddeall y modd o gymhwyso'r darpariaethau newydd.