8. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft

– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 20 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. A galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd fy rhagflaenydd fel Cwnsler Cyffredinol fod y Llywodraeth yn dechrau proses arloesol i greu codau o gyfraith Cymru. Dyna oedd y cam cyntaf mewn taith hir, ac mae'n bleser cyhoeddi nawr ein bod ni'n barod i gychwyn ar gam uchelgeisiol arall ar y daith honno.

Rwy heddiw'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) drafft. Bydd y Bil hwn yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch, ac mae hefyd yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynglŷn â dehongli deddfwriaeth Gymreig.

Un o'n swyddogaethau mwyaf sylfaenol fel Llywodraeth yw diogeli rheol y gyfraith, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein deddfwriaeth ddatganoledig yn hygyrch a dealladwy. Rwy'n sylweddoli bod cael llyfr statud clir, sicr a hygyrch yn ased economaidd. Mae'n rhoi fframwaith cyfreithiol cadarnach a mwy sefydlog i'r rhai sy'n dymuno gwneud busnes yng Nghymru. Dylai hynny, yn ei dro, hybu buddsoddiad a thwf. Bydd yn haws i gyrff y sector cyhoeddus, a sefydliadau eraill, ddeall y cyd-destun cyfreithiol y maen nhw'n gweithio ynddo, a bydd gan y rhai sy'n llunio polisïau yn y Llywodraeth sylfaen gliriach i ddatblygu syniadau newydd. Bydd y broses o graffu ar ddeddfwriaeth yn haws, a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rheini ohonom sydd efallai am ddefnyddio'r gyfraith yn Gymraeg.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:34, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ond yn anad dim, mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn. Mae gwneud y gyfraith yn hygyrch yn hanfodol er mwyn galluogi dinasyddion i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y gyfraith—rhywbeth sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig ers gwneud toriadau fwy nag unwaith i gymorth cyfreithiol a gwasanaethau eraill sydd wedi eu cynllunio i gynghori'r rhai sydd angen cymorth neu gynrychiolaeth.

Ni yw ceidwaid llyfr statud Cymru, sy'n cynnwys nid yn unig y cyfreithiau a wneir gan y Cynulliad hwn a Gweinidogion Cymru, ond hefyd y cyfreithiau hynny o'r cyfnod cyn datganoli a etifeddwyd gennym. Nid yw'r elfen honno o'r llyfr statud, yn arbennig, a dweud y gwir, mewn cyflwr da. Yn y degawdau diwethaf, caniatawyd i ddeddfwriaeth luosi heb oedi i ad-drefnu ac integreiddio'n llwyr yr hyn sy'n newydd a'r hyn a oedd yn bodoli o'r blaen.

Mae llyfr statud â miloedd o Ddeddfau ac offerynnau statudol wedi bod yn anodd ei defnyddio ers amser, ond mae deddfwriaeth Cymru hyd yn oed yn fwy anhygyrch oherwydd ein system hynod gymhleth o ddatganoli ac absenoldeb—oherwydd mai un awdurdodaeth gyfreithiol sydd gennym yng Nghymru a Lloegr—corff ffurfiol o gyfraith wahanol yng Nghymru. Mae'n anodd i bobl Cymru wybod beth y mae'r gyfraith yn ei olygu a deall pwy sy'n gyfrifol am beth. Mae hynny'n tanseilio atebolrwydd democrataidd.

Felly, mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i gydgrynhoi deddfwriaeth mewn modd systemig, parhaus a chynhwysfawr o fewn ein cymhwysedd, a threfnu’r gyfraith honno i godau sy'n benodol i bwnc. Er y bydd hyn yn torri tir newydd yn y DU, byddwn yn dilyn cynseiliau tebyg a osodwyd ar draws awdurdodaethau y gyfraith gyffredin. Mae Awstralia a Chanada, er enghraifft, fel mater o drefn wedi cydgrynhoi eu deddfwriaeth ers dechrau'r ugeinfed ganrif, ar ôl etifeddu cyfreithiau gan Senedd y DU mewn amgylchiadau nid annhebyg. Aeth yr Unol Daleithiau gam ymhellach a chreu cod cyfraith yn 1926 sydd wedi parhau byth ers hynny.

Ond nid oes angen inni edrych yn bell yn unig am enghreifftiau o arfer da. Trefnwyd cyfreithiau Hywel Dda mewn codau, ac roedd y cyfreithwyr ar yr adeg honno yn gallu mynd at y cyfreithiau hynny mewn un llyfr. Felly, mae codio yn rhan bwysig o'n traddodiad cyfreithiol, a'n tasg ni yn awr yw gwneud yn siŵr ei fod yn rhan o'n dyfodol cyfreithiol. Rydym ni yng Nghymru wedi gwneud hyn o'r blaen, ac rwy'n benderfynol y byddwn ni'n gwneud hynny eto.

Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch yn gyfyngedig i symleiddio'r ddeddfwriaeth yn unig—er bod honno'n dasg bwysig. Mae'n rhaid cyhoeddi mewn modd effeithiol hefyd llyfr statud trefnus sydd wedi'i ddrafftio'n glir, ac yn aml mae angen deunydd atodol i nodi'r cyd-destun ac esbonio effeithiau ymarferol y gyfraith yn llawn. Am y rheswm hwn, bwriedir cynnwys gwelliannau i wefan legislation.gov.uk, a weithredir gan yr Archifau Cenedlaethol, a gwefan Cyfraith Cymru-Law Wales yn rhan o'r rhaglen.

Mae gwneud darpariaeth ddwyieithog, bwrpasol ynghylch sut y dylid dehongli ein deddfwriaeth hefyd yn rhan o'n huchelgais ehangach i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Deddfwyd Deddf Dehongli am y tro cyntaf gan Senedd y DU ym 1850, ac mae'r arfer hwn wedi'i efelychu mewn awdurdodaethau cyfraith gyffredin ar draws y byd, gan gynnwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:38, 20 Mawrth 2018

Nid ydym wedi cael ein Deddf Ddehongli ein hunain yng Nghymru hyd yma. Yn hytrach, rydym ni'n dibynnu ar ddeddfwriaeth a gafodd ei gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig ym 1978, ac a gafodd ei haddasu wedyn mewn ymgais i gydnabod bodolaeth deddfwriaeth Gymreig. Gan fod corff o ddeddfwriaeth yn prysur ddatblygu yma yng Nghymru, rwy’n credu ei bod yn bryd nawr i gywiro’r anghysondeb hwn a mynd ati i ddatblygu ein darpariaethau penodol ein hunain ar gyfer Cymru.

Rwy’n credu felly y dylai ein deddfwriaeth ni, fel mater o egwyddor, gael ei darpariaethau ei hunan ynglŷn â sut y dylid ei dehongli. Ar ben hynny, mae Deddf 1978 yn 40 oed bellach ac y mae angen ei moderneiddio. Rydym ni'n cymryd y cyfle i wneud hynny yn ein Bil.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r trefniadau presennol yn rhoi ystyriaeth briodol i natur ddwyieithog ein deddfwriaeth, a’r ffaith bod statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg. Yn yr iaith Saesneg yn unig y mae Deddf 1978, wrth gwrs, ac yn Saesneg y mae’n diffinio’r termau sy’n perthyn i ddeddfwriaeth Cymru. Rhaid unioni hyn, ac rwy’n gwybod bod y sefyllfa yn fater o bryder i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad, a hefyd i Gomisiwn y Gyfraith.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:39, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio, felly, y byddwch chi'n croesawu'r garreg filltir bwysig hon yn natblygiad llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Bwriadwyd—cynlluniwyd—y Bil drafft i helpu i wneud cyfraith Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol a bydd, rwy'n siŵr, yn dod yn garreg sylfaen ar gyfer yr awdurdodaeth gyfreithiol sy'n datblygu yng Nghymru. Mae'n Fil drafft sydd ag arwyddocâd cyfansoddiadol a phwysigrwydd ymarferol i bobl Cymru.

Rwy'n gwahodd yr Aelodau i ystyried nid yn unig y Bil drafft a gyhoeddir heddiw, ond hefyd y weledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n sail iddo. Ac rwy'n annog yr holl bartïon sydd â buddiant ledled Cymru ac ymhellach i ffwrdd i helpu i lunio Bil a fydd yn gwella'r ffordd y mae cyfraith Cymru yn gweithio ac yn fwyaf sylfaenol, bydd yn helpu pawb y mae'r gyfraith yn effeithio arnynt i ddod o hyd iddi a'i deall.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:40, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau trwy groesawu cyhoeddiad y Bil deddfwriaeth drafft hwn, a hefyd y ddogfen ymgynghori a'r cyfnod a gaiff ei roi nawr i'r ymgynghoriad hwnnw o bron i dri mis? Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn ac mae angen ymgynghori'n helaeth arnynt. Gwn y bydd gan y Llywodraeth ddiddordeb mawr yn yr ystod o safbwyntiau y mae'n gobeithio eu cael drwy'r broses hon. Ar yr ochr hon i'r Cynulliad, rydym ni'n rhannu'r dyhead yn llwyr i wneud ein cyfraith yn fwy hygyrch. Credaf ei bod yn bwysig dros ben i'r cyhoedd ein bod yn gwneud hyn, ac ni allaf feddwl am lawer o dasgau gwell o ran yr hyn y mae angen inni ei wneud yn ein prosesau technegol o wneud deddfau—ond, o ran sefydliad newydd, Senedd newydd, i wir osod y safonau uchaf ar gyfer gweddill y DU, o bosibl, yn y ffordd y byddwn yn gwneud hyn.

Mae cymhlethdod diangen, heb unrhyw amheuaeth, yn tanseilio atebolrwydd democrataidd. Rydym ni ar hyn o bryd mewn system lle nad yw cyfreithwyr eithaf dawnus yn gallu deall llawer o'r llyfr statud. Mae angen ichi fod ag arbenigedd gwirioneddol mewn maes penodol o'r gyfraith i allu ei ddehongli, a go brin fod hyn yn beth da, yn fy marn i, ar gyfer y maes cyhoeddus lle'r ydym ni'n gobeithio y bydd llawer o bobl â buddiannau amrywiol sydd angen mynd at y gyfraith ar unrhyw un adeg yn gallu gwneud hynny. Mae cydgrynhoi'r gyfraith hefyd yn rhywbeth dymunol iawn. Eto, fel sefydliad newydd—yn wir, dim ond saith oed ydym ni fel Senedd, mewn gwirionedd—gallwn ni fod â'r nod o gael llyfr statud sydd mewn cyflwr llawer mwy rhesymegol a chrynodedig. Dylwn i ddweud nad ydym ni wedi gwneud yn wych hyd yn hyn. Mae hynny oherwydd nad yw cydgrynhoi yn rhwydd. Rwy'n derbyn hynny. Ond, rwy'n dal i gredu, ar gyfer y meysydd pwysig, y dylem ni wneud y buddsoddiad hwnnw. Er enghraifft, o ran cynllunio, rydym ni ar fin gweld, ond mewn meysydd eraill o ddarnau mawr o gyfraith gyhoeddus, credaf y dylem ni ddechrau gweithio drwyddyn nhw a'u cydgrynhoi nhw. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, mewn awdurdodaethau eraill, maen nhw wedi bodloni'r dyheadau hyn, yn aml ar adeg pan eu bod nhw wedi etifeddu corff mawr o gyfraith fel deddfwrfeydd newydd. Felly, rwy'n credu mai dyna y dylem ni ei wneud. Rwy'n falch iawn o nodi beth sydd yn y drafft ar hyn o bryd yn ymwneud ag amrywiaeth o ddeunyddiau sy'n gallu helpu pobl i ddeall y gyfraith, ac mae'r cyfeiriadau a wnaethoch chi at y wefan a'r archif cenedlaethol, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Ar gyfer y lleygwr sydd â diddordeb, dyna sut y bydd mewn gwirionedd yn mynd i allu cael rhyw fath o ddirnadaeth.

Mae angen i mi ofyn ychydig o gwestiynau, felly a gaf i wneud hynny yn ysbryd ymateb cynnar i'r ymgynghoriad, bron? Hoffwn gael rhywfaint o eglurhad o ran yr agwedd Deddf dehongli o hyn. Rydych chi yn llygad eich lle: fe wnaeth y Gymdeithas Ddysgedig, er enghraifft, flwyddyn neu ddwy yn ôl, gymeradwyo'r angen am Ddeddf dehongli, yn enwedig o ran deddfwriaeth ddwyieithog, ond byddai hefyd yn caniatáu inni foderneiddio Deddf 1978. Ond, credaf fod angen inni wybod sut y bydd unrhyw Ddeddf newydd yn y fan yma y bydd y Cynulliad yn ei phasio yn cyd-fynd â Deddf Dehongli 1978, oherwydd bydd honno'n dal i gael ei defnyddio, cyn belled ag y gallaf i weld. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ceisio sefydlu egwyddorion dehongli ar wahân a fyddai'n gymwys yng Nghymru, ond nad ydynt, ar hyn o bryd, yn rhan hanfodol o Ddeddf 1978? A gaf i ddweud hefyd, o ran cwmpas yr hyn yr ydych chi'n ceisio ei wneud—? Rwy'n troi at Atodlen 1. Mae cysyniadau pwysig iawn fel tir a pherson wedi'u cynnwys yno. Tybed a ddylai pethau o'r pwysigrwydd hwnnw fod mewn Deddf dehongli, mewn gwirionedd, sydd fel arfer yn ymwneud â thermau cyffredin a thechnegol. Onid yw'n wir bod angen dehongli rhai cysyniadau pwerus iawn ym mhob Deddf yr ydym yn ei phasio, er mwyn iddynt allu bod yn benodol ac yn dynn iawn? Gwn fod tipyn o gyfyng-gyngor yn hyn i gyd, ond byddwn yn gofyn iddo fyfyrio ar y ddwy enghraifft benodol hyn sy'n amlwg iawn i mi.

O ran hygyrchedd, rwy'n credu bod angen gweledigaeth arnom ar gyfer sut y mae hyn i gyd yn mynd i helpu, ac rwy'n dyfynnu, 'y llanastr annealladwy' sef cyfraith Cymru. Nawr, o ble mae'r dyfyniad hwnnw yn dod? Wel, ffynhonnell llawer gwell na mi: yr Arglwydd Lloyd-Jones, barnwr y Goruchaf Lys. Ac os yw barnwr y Goruchaf Lys wedi dweud wrthym fod y gyfraith ar hyn o bryd yn llanastr annealladwy, yn amlwg mae angen i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei basio nawr fel deddfwrfa—rwy'n credu eich bod chi'n iawn, y caiff ei chydnabod fel awdurdodaeth gyfreithiol ar ryw adeg, ond mae hwnnw'n dal i fod yn fater sensitif—yn rhesymegol, yn hygyrch ac yn glir.

Credaf fod angen inni hefyd gael syniad o sut y bydd y cod yn gweithio, gan eich bod chi wedi cyfeirio at awdurdodaethau eraill sydd wedi defnyddio'r dull hwn. Ond, wyddoch chi, o dan amgylchiadau ymarferol, a fyddai gennym ni god gofal cymdeithasol? A fyddai gennym ni god gofal iechyd? Neu a fyddech chi'n ceisio cysylltu'r rheini mewn rhyw fffordd? Yn yr un modd, a fyddai yna god cynllunio a chod amgylcheddol gwahanol? Mae llawer o wahanol ffyrdd o fynd ati i wneud y pethau hyn, ac rwy'n credu y byddai rhyw fath o syniad o faint o godau neu pa mor gynhwysfawr y maen nhw'n mynd i fod yn ddefnyddiol. Ac a fyddai cyfreithiau sydd wedi eu cynnwys mewn codau penodol yn gallu datblygu y tu allan i'r codau hynny? Oherwydd, unwaith eto, maen nhw'n cydberthyn â'i gilydd yn aml iawn, iawn.

Ac yn olaf, a gaf i ddweud, yn adran 20—ac mae hyn yn apêl fel cyn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—? Mae adran 20 yn ymwneud â chyfarwyddiadau. Maen nhw'n anodd iawn i gadw llygad arnyn nhw, cyfarwyddiadau gweinidogol, ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw ef wedi ystyried dull ffurfiol a strwythuredig o'u cyhoeddi, rhywbeth tebyg i'r dull sydd gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer offerynnau statudol. Rwy'n credu y byddai hynny'n ychwanegu'n fawr at hygyrchedd cyfraith Cymru. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:47, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ystod o gwestiynau hynod o graff ac am y sylw y mae wedi'i roi i'r ymgynghoriad, yr wyf yn ei werthfawrogi'n fawr? Ceir nifer o gwestiynau yn ei gyfraniad. Gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder â nhw.

Wrth wraidd y pwyntiau y mae'n eu gwneud yn fwy cyffredinol, mae'n debyg, y mae'r syniad nad oes dim amser i'w golli, os mynnwch chi. Ceir corff o gyfraith. Rydym ni'n ddeddfwrfa gymharol ifanc o hyd. Mae angen inni achub ar y cyfle, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'r broblem yn dod yn fwy a mwy anhydrin yr hiraf yr ydym yn ei gadael hi, a byddwn i, yn bendant, yn ategu'r teimlad y tu ôl i'w gyfraniad yn hynny o beth.

Bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, y bu gweithgarwch ynghylch cydgrynhoi hyd yma ar sail bob yn dipyn, os mynnwch chi, a gwnaed gwaith yn arbennig yn y maes amgylchedd hanesyddol ac, fel y bydd ef yn gwybod, ar y cyd â Chomisiwn y Gyfraith ar gydgrynhoi cynllunio, y cyfeiriodd ato yn ei sylwadau. O edrych i'r dyfodol, mae yna feysydd sy'n addas, yn amlwg, ar gyfer cydgrynhoi a chodio. Mae cyfraith llywodraeth leol yn enghraifft o hyn. Mae cyfraith addysg yn enghraifft arall. A byddaf yn sôn ymhen ychydig sut, yn fy marn i, y gall cod weithio mewn rhai o'r meysydd hynny.

Ond y syniad craidd y tu ôl i'r Bil drafft yw symud ymlaen oddi wrth y dull tameidiog i greu ymdeimlad o gyfeiriad o fewn y Llywodraeth, o fewn y ddeddfwrfa, bod hyn yn amcan ac yn nod yr ydym ni'n symud tuag ato'n gynyddol dros amser. Wedi dweud nad oes dim amser i'w golli, nid yw hwn, fel y mae ef, rwy'n ymwybodol iawn, yn gwybod, yn brosiect tymor byr; mae'n waith cenhedlaeth, mewn gwirionedd, a gallwch chi ei ddychmygu yn ymestyn dros ddegawdau, yn dibynnu ar lefel yr adnoddau a lefel y cynnydd y gall unrhyw raglen benodol ei wneud.

O ran beth fyddai nodweddion cod, dydw i ddim yn rhagweld y bydd gan y cod rhyw fath o bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân, os mynnwch chi. Felly, gydag unrhyw god, tybiaf y byddai'n un neu'n ddau, neu efallai mwy, gan ddibynnu ar gymhlethdod y pwnc dan sylw, prif Ddeddfau sy'n cydgrynhoi efallai tri neu bedwar o bynciau o fewn addysg, dyweder, dim ond i gymryd hynny fel esiampl at y diben hwn, ac yna byddai gennych islaw hynny yr offerynnau statudol perthnasol i'r is-bwnc penodol hwnnw, os mynnwch chi, ac islaw hynny—ac mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â'r cwestiwn y gorffennodd ef arno, ynghylch y cyfarwyddiadau—y gyfraith feddal, gyda'r codau ymarfer a chanllawiau eraill fel bod y cyfan ar gael yn gynhwysfawr mewn un man, a rhyw fath o hierarchaeth gyfreithiol yr ydym ni i gyd yn gweithredu yn unol â hi ac yn ei deall yn dda iawn. Dyna'r weledigaeth a geir yn yr ymgynghoriad hwn, mewn gwirionedd. Y peth hanfodol, fel yr oedd ef yn ei gydnabod, unwaith eto, yw bod angen ei gynnal. Rydym ni wedi gweld digon o enghreifftiau yn y gorffennol o gydgrynhoi eithaf sylweddol mewn sawl deddfwrfa, mewn gwirionedd, ac yna daw Llywodraeth newydd i mewn, mae'n diwygio'r gyfraith, ond mae'n gwneud hynny drwy Ddeddf annibynnol sy'n tanseilio'r modd y cydgrynhowyd yr hyn a ddigwyddodd yn flaenorol. Yr amcan yw osgoi hynny, ac felly byddech chi'n—. Rhan hanfodol o hyn yw bod y codau, ar ôl eu sefydlu, yn cael eu cynnal fel codau. Felly, yn ymarferol, os oes un Ddeddf cyn y diwygio, dylai fod un Ddeddf ar ôl y diwygio, mewn gwirionedd. Dyna fyddai'r egwyddor gyffredinol, oni bai bod rhesymau da iawn dros wyro oddi wrth hynny. Mae hynny'n hanfodol, mewn gwirionedd, i'r cwestiwn o hygyrchedd.

Cododd nifer o bwyntiau ynghylch cyhoeddi i gyd-fynd â hynny. Rydym ni'n eithaf pell o'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi o fod ag adnodd ar-lein sy'n gyfredol ac yn awdurdodol ar draws deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym ni'n bell o fod mewn sefyllfa i gyflawni'r amcan honno. Cyfarfûm yr wythnos diwethaf â'r Archifau Cenedlaethol, argraffydd y Frenhines, i drafod yr her benodol hon, a cheir her benodol ynghylch darparu adnoddau ar gyfer yr agwedd Gymraeg ar hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw'r adnoddau sydd gennym ni, wrth gwrs, yn y fan yma. Felly, mae trafodaeth ynghylch yr agwedd honno.

Cododd nifer o bwyntiau am y Ddeddf Dehongli. O ran diffiniadau penodol, yn amlwg nid yw bodolaeth term yn y Ddeddf Dehongli yn atal y term hwnnw rhag cael ei ddiffinio mewn ffordd wahanol mewn Deddf benodol os yw hynny'n angenrheidiol at y diben. Un o'r materion, rwy'n gwybod, y mae ei bwyllgor ef wedi eu codi mewn gohebiaeth gyda mi mewn adroddiadau ar gyfer deddfwriaeth ac offerynnau statudol blaenorol yw mater adran 11 y Ddeddf flaenorol a sut y gall hynny fod yn ddryslyd, a'r cynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw na fyddai hynny'n berthnasol i Ddeddf dehongli newydd ar gyfer Cymru yn unig, ond y byddai wyneb Deddf yn egluro'r rheol honno yn fanwl, neu egluro'n fanwl y diffiniad, gan ei gwneud yn haws i ddarllenydd unigol fynd at y pwynt. Y nod yw cael dyddiad clir a chofiadwy gobeithio—1 Ionawr, efallai, mewn unrhyw flwyddyn—fel y bydd yn gwbl glir beth yw'r pwynt terfyn ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf. O ran pa Ddeddfau ac offerynnau statudol a fyddai'n berthnasol, byddai'n unrhyw Ddeddf y Cynulliad hwn ar ôl y dyddiad hwnnw, beth bynnag y byddai, ac unrhyw offerynnau statudol a wnaed gan Weinidogion Cymru ar ôl y dyddiad hwnnw, pa un a yw'n dod o dan Ddeddf y Cynulliad neu Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig. Felly, dylai fod yn eithaf syml i ddeall y modd o gymhwyso'r darpariaethau newydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:53, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf i atgoffa'r Aelodau yn garedig mai datganiad 30 munud yw hwn, ac rydym ni ar bron ar 21 munud nawr. Simon Thomas.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddwch chi'n falch o wybod, rydw i'n credu, bod David Melding wedi gofyn y rhan fwyaf o fy nghwestiynau. Felly, gwnaf i ganolbwyntio, efallai, ar y ffordd yr ŷm ni'n mynd i fynd o gwmpas pethau. Mae'n wir i ddweud na fydd yna lawer o boteli o champagne yn cael eu hagor yn dilyn y datganiad heddiw, ond mi ddylen nhw, achos mae hwn yn ddatganiad o bwys. Am y tro cyntaf, rŷm ni'n camu mas o gysgod San Steffan yn y ffordd yr ŷm ni'n mynd ati i lunio ein deddfwriaeth. Rydw i'n croesawu hynny. Wrth i ni droi ein cefnau ar yr Undeb Ewropeaidd rŷm ni'n agor y drws i ddull llawer mwy Ewropeaidd o lunio Deddfau a gwneud Deddfau yn fwy agored i'r cyhoedd. Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn iawn, rydw i'n meddwl, i ganolbwyntio yn ei adroddiad gymaint ar gyfiawnder cymdeithasol. Rydw i wedi defnyddio'r enghraifft yma o'r blaen, ond mae'n dal i fod yn wir: rydw i wedi cael etholwr yn daer iawn yn dweud bod cyfraith tai yn ymwneud â'i sefyllfa yntau oherwydd bod y gyfraith yn dweud, 'This law applies in England and Wales', ond wrth gwrs, nid oedd hi yn yr ystyr yna. Cyfraith Lloegr yn unig oedd hynny. Felly, rydw i'n croesawu beth sydd wedi ei ddatgan yn fan hyn ac yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at hynny.

Jest ychydig o gwestiynau, felly. Mae'n amlwg ein bod ni fel Plaid Cymru yn credu y dylai fod awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, ac y byddai'n llawer mwy rhwydd i nifer o'r pethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gosod allan pe bai hynny'n digwydd. Ond a fedrwch chi esbonio ym mha ffordd fydd y gwaith ymgynghorol yma yn mynd llaw yn llaw gyda gwaith comisiwn y gyfraith, sydd wedi'i sefydlu gan y Prif Weinidog, â'r Arglwydd Cwmgiedd yn gadeirydd arno, a sut mae'r ddau set o waith yn mynd i blethu gyda'i gilydd?

Rydw i'n dal yn gyndyn iawn ac yn anhapus a dweud y gwir gyda'r ffaith nad oes gennym wefan a gwybodaeth ddwyieithog lawn. Rŷch chi'n dweud nad oes yr adnoddau gan y Queen's printer a phobl felly. Wel, tra bod gyda ni awdurdodaeth Cymru a Lloegr, mae'n ddyletswydd arnyn nhw hefyd i roi adnoddau priodol fel bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad yn y Gymraeg at gyfraith Cymru, gan ein bod yn cyfreitha yn Gymraeg yn y fan hyn. 

Rydw i'n meddwl ei fod yn anffodus ein bod ni o hyd, ar ôl tua phedair blynedd o ddadlau hyn, yn benthyg aelodau staff, rwy'n gwybod, o Lywodraeth Cymru i'r archif genedlaethol, ac maen nhw'n dal ddim wedi cyrraedd lle dylen nhw fod. Felly, a fedrwch chi ddweud pa waith pellach fyddwch chi'n gwneud ar hyn? Nid oes pwynt cael codau a chydgrynhoi'r gyfraith os nad oes gan bobl fynediad at y gyfraith i ddeall beth yw'r gyfraith yna. 

Rwy'n gwybod eich bod wedi ateb David Melding ar hyn, ond a allwch chi esbonio, os medrwch chi, jest ychydig mwy am sut fydd y gwahanol godau'n digwydd? Rŷch chi'n cyfeirio at yr hanes yng Nghymru, wrth gwrs, a chod Hywel Dda. Roedd mwy nag un cod yn anffodus: roedd cod Gwynedd, cod Dyfed, cod Gwent, efallai codau sydd ddim wedi goroesi hyd yn oed. Rydym ni'n derbyn wrth gwrs y bydd mwy nag un cod, achos mae'n ymwneud â mwy nag un maes. Ond ym mha ffordd ydych chi'n gweld bod y Llywodraeth, neu, yn hytrach, y Cynulliad, yn gallu cael gafael ar ddatblygiad y rhain a gwneud yn siŵr eu bod nhw dal yn addas?

Wrth gwrs, ynghlwm wrth hyn mae'r ffaith eich bod chi'n gorfod gosod dyletswydd nid yn unig ar y Llywodraeth yma a'r Cwnsler Cyffredinol presennol, ond Llywodraethau i ddod. Sut cweit ydych chi'n gosod dyletswydd y mae unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn gallu anwybyddu neu wyrdroi neu beth bynnag? Pa ffordd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gallu rhoi'r ymrwymiad yma'n fwy concrit, os liciwch chi? Rwy'n gwybod eich bod chi o blaid y peth, ond cawn ni weld sut mae'n datblygu. 

Wrth gwrs, ar dir mawr Ewrop, Napoleon oedd fwyaf enwog am ddatblygu codau o'r fath. Nid wyf i'n awgrymu am eiliad y byddwch chi'n Napoleon bach fan hyn yng Nghymru—byddai'n well gyda fi gweld Blegywyd Mawr yn dilyn ôl troed efallai y cyfreithiwr mwyaf sydd gyda ni yng Nghymru hyd yma. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:57, 20 Mawrth 2018

Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Maent yn cyffwrdd â sawl maes. Ar y cwestiwn cyntaf ar y berthynas rhwng hwn a gwaith y comisiwn, un o'r pethau mae'r comisiwn yn edrych mewn iddo wrth gwrs yw'r cwestiwn o hygyrchedd i'r system gyfiawnder yn gyffredinol, a hynny mewn ffordd eang. Fel wnes i sôn yn fy sylwadau, rwy'n credu ei fod yn hollol hanfodol mewn cyd-destun lle rŷm ni’n colli legal aid a'i bod jest yn anoddach i bobl gael access i gyngor cyfreithiol. Mae'n ddyletswydd benodol yn y cyd-destun hwnnw ar Lywodraethau i allu gwneud y gyfraith mor hygyrch ag sy'n bosibl, ac i gyhoeddi'r gyfraith mewn amryw ffyrdd, fel bod pobl yn gallu, nid yn unig ei ffeindio, ond ei ddeall pan fyddan nhw yn ei ffeindio. 

Yr elfen arall i hynny yw, fel mae e'n gwybod, bod y comisiwn yn edrych ar y cwestiwn o awdurdodaeth a bydd consolidation a chreu'r codau yma yn ail-wneud y ddeddfwriaeth yma fel deddfwriaeth Gymreig ddwyieithog. Hynny yw, mae'n llanw'r categori hwnnw o ddeddfwriaeth Cymru mewn ffordd sydd yn lot fwy dealladwy a lot fwy penodol. Felly, mae hynny'n cyfrannu at sail y drafodaeth honno. 

Rwy'n rhannu ei siom ef gyda chymaint o gynnydd rŷm ni wedi ei wneud yn nhermau cael gwefan ddwyieithog ddibynadwy i gyfraith Cymru. Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar iawn gydag argraffydd y Frenhines ynglŷn â hyn i ffeindio ffordd i allu symud hynny ymlaen. Beth fuaswn i'n dweud wrtho yw bod yr elfen ieithyddol yn benodol i ni fan hyn wrth gwrs, ond yn awdurdodaeth Lloegr hefyd mae'r diffyg hwnnw'n perthyn i'r ffaith bod y deddfau sydd yn fanna ddim yn gyfredol chwaith. Felly, mae hon yn sialens ar draws y Deyrnas Unedig, yn anffodus. Rwyf i wedi bod yn trafod gyda nhw rhywbeth maen nhw wedi bod yn datblygu ar gyfer DEFRA yn Llywodraeth San Steffan—rhywbeth o'r enw DefraLex—sydd yn rhyw fath o index, mynegai dros dro fel ei bod yn haws i bobl ffeindio popeth sydd o fewn un maes hyd yn oed os nad yw wedi cael ei 'consolidate-o'. 

O ran sut y byddai’r codau’n gweithio, byddai dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol, o fewn chwe mis i bob Cynulliad, i gyflwyno cynllun i’r Cynulliad. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ar hwnnw, a bydd y Cabinet a’r Gweinidogion wedi cytuno cynnwys y cynllun, a bydd yn rhaid edrych ar y pryd ar feysydd sydd yn barod i’w diwygio ac efallai bod cyfle yn hynny i allu gwneud rhywfaint o greu’r codau hyn, neu efallai os oes rhywbeth newydd gael ei ddiwygio a bod cyfnod o dawelwch polisi, bod hynny hefyd yn creu cyfle i allu gwneud peth o’r gwaith yma.

Rwy’n rhagweld y bydd cynllun a bydd sawl project o fewn cynllun. Efallai bydd project yn cymryd mwy nag un tymor Cynulliad i allu’i greu. Felly, os bydd hwnnw yn ei ffordd pan ddaw’r Llywodraeth newydd i rym, buasai’n bosib, wrth gwrs, i’r Llywodraeth atal hwnnw, ond buasai'n lot fwy tebygol, y byddwn i’n meddwl, o greu cynllun newydd ar gyfer y dyfodol. Bydd dyletswydd gyfreithiol ar y Llywodraeth i ddwyn cynllun yn ei flaen, ond bydd cynnwys y cynllun hwnnw’n dibynnu ar amgylchiadau deddfwriaethol a chynllun deddfwriaethol cyffredinol y Llywodraeth honno, o bryd i’w gilydd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:01, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i orfod efallai arllwys dŵr oer ar frwdfrydedd fy nghymydog yn y fan yma am symud cyfraith Cymru i gyfeiriad—

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

—cyfreitheg Ewrop, ond rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno, oherwydd sonnir yn y datganiad ei hun y gall codio ddigwydd hefyd, wrth gwrs, mewn awdurdodaethau y gyfraith gyffredin, fel yr Unol Daleithiau a Chanada, ac nid yw dim ond gwneud synnwyr o ddatblygiad anhrefnus, heb reolaeth, o gyfres o wahanol statudau neu Orchmynion a'u cydgrynhoi mewn un uned y gellir ei defnyddio'n haws yn union yr un fath â symud i gyfeiriad y math o ddull gweithredu 'teleolegol', fel yr hyn a geir mewn awdurdodaethau cyfraith Ewropeaidd.

Rwyf i fy hun wedi bod yn gydgrynhowr ar adegau, fel golygydd Butterworths' Land Development Encyclopaedia mwy o flynyddoedd yn ôl nag yr wyf yn dymuno eu cofio, a bob blwyddyn roedd yn rhaid i mi ddiweddaru unrhyw statudau neu offerynnau statudol a luniwyd yn ystod y flwyddyn a'u rhoi mewn un llyfr, gan ddileu'r hyn a oedd wedi'i ddisodli a mewnosod y mesurau newydd, ac mae hon yn broses gwbl ddibwrpas, nad yw o reidrwydd yn golygu unrhyw newid i gorpws y gyfraith ei hun. Ni allai unrhyw un, yn rhesymol, wrthwynebu'r hyn y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol oedd y nod, sef gwneud y gyfraith yn hygyrch, i alluogi dinasyddion i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y gyfraith.

Un o'r problemau mawr â'r gyfraith heddiw, wrth gwrs, yw cymaint y mae wedi tyfu, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan oeddwn i, flynyddoedd lawer iawn yn ôl, yn ymarferydd treth, roedd Butterworths yn cyhoeddi cod treth bob blwyddyn. Yn 1965, roedd yn 750 o dudalennau; mae bellach yn 17,000 o dudalennau ac mae wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Po fwyaf o gyfraith a geir ar y llyfr statud yn ei amryw ffurfiau, y mwyaf anhygyrch y bydd, yn anochel, a'r mwyaf arbenigol y bydd. Ond mae'n hollbwysig y dylem ni ei gwneud mor hawdd â phosibl i lywio'r amrywiol lwybrau hyn. Felly, rwy'n croesawu'r arfer hwn.

Ni allai neb wrthwynebu ymgynghoriad. Pa un a yw'n arwain at y fenter fwy uchelgeisiol o greu awdurdodaeth ar wahân ar gyfer Cymru ai peidio, mae hynny'n fater arall yn gyfan gwbl, ond rwyf wedi cael rhai sgyrsiau diddorol iawn eisoes gyda'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd am hyn, ac mae'n gwneud ambell i bwynt pwysig iawn am faterion ymarferol y gyfraith yng Nghymru yn datblygu yn ddigon da i wasanaethu pobl yn ymarferol drwy ddim ond manylion fel datblygu system ffurflenni, er enghraifft. Ac ni ellir gwneud hynny'n hawdd mewn system gyfreithiol sydd ar hyn o bryd yn cael ei chyfarwyddo a'i rheoli o Lundain. Felly, rwyf yn ystyried hyn yn ddatblygiad dibwrpas.

Rwy'n pryderu am y posibilrwydd y bydd Deddf dehongli ar gyfer Cymru o bosibl yn ei gwneud yn fwy anodd deall y gyfraith yn hytrach nag yn haws, i'r graddau y gellid dehongli'r Ddeddf dehongli ei hun fel rhywbeth sy'n gwrthdaro â pha bynnag fesur sydd mewn grym yn Lloegr. Gwn fod yna Ddeddfau dehongli yn yr Alban, ac efallai na fydd hwn yn anhawster anorchfygol, ond mae'n hanfodol bwysig, oherwydd bod y gyfraith yng Nghymru, yn anochel, yn gwyro oddi wrth cyfraith Lloegr—ac mae'r broses ddatganoli a gadael yr UE yn arbennig, yn mynd i gyflymu hyn ac ehangu'r broses hon—y dylem ni o leiaf o ran dehongli, i'r graddau y gallwn ni, gysoni'r canonau o ddeunydd dehongli a'r ffordd y maen nhw'n gweithredu mewn modd sy'n gyson ledled y Deyrnas Unedig. Fel arall, yn y modd hwnnw, ceid hyd yn oed mwy o ddryswch. Felly, gobeithiaf y gall y Cwnsler Cyffredinol o leiaf ar y pwynt hwnnw fy modloni i yn ei ymateb heddiw.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:05, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Yn eu tro, soniodd am y newidiadau i'r corpws o gyfraith a'r gwelliannau a allai ddod yn rhan o'r gwaith cydgrynhoi. Mae'n bwysig iawn pwysleisio'r ffaith nad yw ymarfer cydgrynhoi yn ymwneud â diwygio'r gyfraith, ac, yn y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda Chomisiwn y Cynulliad ynghylch y gofynion gweithdrefnol y mae ymarfer cydgrynhoi yn eu cynnwys, mae wedi bod yn gwbl glir mai'r hyn nad ydym ni'n sôn amdano yw newid polisi; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n well, os mynnwch chi. Ac, a dweud y gwir, mae'n sôn am y pwynt ynghylch awdurdodaeth—wyddoch chi, nid dyna yw prif nod yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Hoffwn i adleisio ei bwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â'r defnydd ymarferol o'r gyfraith, ei gwneud yn fwy dealladwy a'i gwneud yn fwy hygyrch yn yr ystyr o ddydd i ddydd. Dyna yw prif amcan fy nghynnig yn yr ymgynghoriad hwn.

O ran mater y Ddeddf Dehongli, y gwir amdani yw bod Deddf 1978 yn cynnwys llawer o ddeunydd nad yw'n berthnasol i ddeddfwriaeth a wneir yn y lle hwn drwy gyfrwng y setliad datganoli, ac, wrth gwrs, dim ond yn Saesneg y mae hi, ac felly mae corff cyfan o gyfraith awdurdodol yr ydym ni'n ei phasio yn y fan yma nad oes ganddi ei Deddf Dehongli ei hun, sef fersiwn Gymraeg o bob Deddf sy'n cael ei phasio gennym. Ac felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r ddwy agwedd hynny ac mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer hynny.

Rwy'n credu, o ran y mater o wrthdaro, yn fy marn i, y peth pwysicaf yw bod gennym ni Ddeddf Dehongli sy'n gweithio ar gyfer y setliad datganoli yng Nghymru a'i bod yn glir iawn pan fo'r Ddeddf honno yn berthnasol a phan fo Deddf Dehongli 1978 yn berthnasol er mwyn i gyfreithwyr ac aelodau o'r cyhoedd allu mynd at ddeddfwriaeth gan ddeall yn glir lle y dylen nhw fynd i ddeall y gyfraith.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:07, 20 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol. Diolch. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:07.